Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Rhag 2008 5:01 pm

Helo maeswyr,

Dwi wrthi yn ysgrifennu fy noethuriaeth ac wedi dod ar draws sefyllfa cyffredin yn y ‘data’ lle teimlais doedd dim gair Saesneg yn disgrifio’r sefyllfa mor dda â’r gair Cymraeg. Nid wyf yn ddigon siŵr o'n hun a fy ngallu ieithyddol ac felly hoffwn glywed eich syniadau ar y mater cyn penderfynu beth i’w wneud.

Y sefyllfa yw: Fod cleifion yn mynd at y meddyg hefo e.e. hen anafiad pen-glin sy’n achosi lot o boen a thrwbl iddynt. Mae’r meddyg yn deud gallent cael llawdriniaeth arni ac yn gwneud referral. Maent yn gweld arbenigwr sy’n deud gallent gwneud y llawdriniaeth ond does ddim modd gwarantu wneith o weithio, ellid mynd o chwith (risg bach), ond os eith yn iawn fydd o llawer iawn gwell. Mae’r claf yn poeni am y posibiliadau, yn mynd am gwahanol opiniynau, yn osgoi y llawdriniaeth (gan poeni am iddo fynd o chwith ond hefyd y ffaith fod ar ôl iddo gael o fydd yr opsiwn ene wedi mynd a fydd na ddim gobaith o’i flaen – dim ‘safety net’ fel petai)...ar ôl mynd trwy pob dewis posib yn ei ben mae’n mynd nol i’r meddyg i trafod y symptomau eto....mae o wedi troi mewn cylch ac yn dal i droi gan fod e’n ‘stuck’.

Y gair a ddaeth i mi am y sefyllfa oedd “Penbleth”. Ar ôl trio defnyddio’r geiriau ‘circle over diagnosis’ (a’r goruchwylwyr yn deud doedd hynna ddim yn glir) wnes i gynnig un neu ddau o bethau eraill (eto doedden nhw ddim yn hapus) felly es i at y geiriadur a edrych ar cyfieithiad y gair ‘Penbleth’, ag, yn fwy na dim, y sefyllfa o fod “Mewn Penbleth”. Y geiriau agosaf oedd “perplexity” neu “Quandry” ond i fi, dyw’r geiriau yma ddim cweit yn iawn a fyswn i ddim wedi tybio ei bod nhw yn disgrifio’r sefyllfa yma...

Hoffwn pe bai y gair Penbleth, fel rwyn teimlo ei fod e, yn disgrifio’r sefyllfa a’r geiriau Saesneg ddim achos pan siaradais hefo fy ngoruchwylwyr gan ddeud wrthynt beth oeddwn wedi bod yn meddwl a gofyn prun air Saesneg roeddynt am i mi ei ddefnyddio, dyma un ohonyn nhw yn deud os roedd hyn yn wir ddylwn defnyddio’r gair “Penbleth”, ei roi yn y glossary ai hesbonio, ag felly fyddwn wedi ‘coinio phrase’, fel mae llawer yn ei wneud hefo geiriau Ffrangeg.......ond ydw i’n iawn neu jest yn malu chachu mewn rhyw cylch o procrastineiddio? :ing:

Os oes unrhyw un yn dal yn darllen hwn hyd yma, diolch i chwi....a plîs help! :wps: :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan bartiddu » Llun 22 Rhag 2008 6:38 pm

Saimo.... Beth am rhein, mewn cyfyng gynghor ..neu.. wedi drysu. Ymddiheuraf os wyf wedi camddeall y cwestiwn! :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Rhag 2008 7:04 pm

Hia Bartiddu,

Ia, roedd fy esboniad braidd yn ddryslut toedd :D

Be dwi'n gofyn yw: A yw'r gair Cymraeg 'Penbleth' yn cynnig disgrifiad/ esboniad na ellir ei disgrifio gyda un gair Saesneg (megis: Perplexity neu Quandry)?

Os ydy o mi gai ddefnyddio'r gair Cymraeg yn y doethuriaeth cw gan esbonio'r gair, ar reswm am ei ddefnyddio, yn y 'glossary'...ond dwi angen barn pobl sydd a well gafael ar y Gymraeg na fi i cadarnhau be dwi'n drio ei ddeud....
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan Kez » Llun 22 Rhag 2008 7:10 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:

Y sefyllfa yw: Fod cleifion yn mynd at y meddyg hefo e.e. hen anafiad pen-glin sy’n achosi lot o boen a thrwbl iddynt. Mae’r meddyg yn deud gallent cael llawdriniaeth arni ac yn gwneud referral. Maent yn gweld arbenigwr sy’n deud gallent gwneud y llawdriniaeth ond does ddim modd gwarantu wneith o weithio, ellid mynd o chwith (risg bach), ond os eith yn iawn fydd o llawer iawn gwell. Mae’r claf yn poeni am y posibiliadau, yn mynd am gwahanol opiniynau, yn osgoi y llawdriniaeth (gan poeni am iddo fynd o chwith ond hefyd y ffaith fod ar ôl iddo gael o fydd yr opsiwn ene wedi mynd a fydd na ddim gobaith o’i flaen – dim ‘safety net’ fel petai)...ar ôl mynd trwy pob dewis posib yn ei ben mae’n mynd nol i’r meddyg i trafod y symptomau eto....mae o wedi troi mewn cylch ac yn dal i droi gan fod e’n ‘stuck’.

Y gair a ddaeth i mi am y sefyllfa oedd “Penbleth”. Ar ôl trio defnyddio’r geiriau ‘circle over diagnosis’ (a’r goruchwylwyr yn deud doedd hynna ddim yn glir) wnes i gynnig un neu ddau o bethau eraill (eto doedden nhw ddim yn hapus) felly es i at y geiriadur a edrych ar cyfieithiad y gair ‘Penbleth’, ag, yn fwy na dim, y sefyllfa o fod “Mewn Penbleth”. Y geiriau agosaf oedd “perplexity” neu “Quandry” ond i fi, dyw’r geiriau yma ddim cweit yn iawn a fyswn i ddim wedi tybio ei bod nhw yn disgrifio’r sefyllfa yma...

Beth am 'gor-bryder' i ddisgrifio'r cyflwr
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Rhag 2008 7:20 pm

Kez a ddywedodd:

Hia Kez, ia mae e'n dod o dan yr ymbarel o 'Medically Unexplained Symptoms' (achos dio ddim yn cael ei sortio byth trwy troi mewn cylchoedd) ac due to 'anxiety' mae e, ond trio disgrifio'r troi mewn cylch achos fod pob optiwn yn 'unfavorable' dwi...methu ffeindio gair Saesneg sy'n gweithio mor dda a Penbleth dwi...ond os nad yw Penbleth yn ffitio i'r dim (hynny yw, digrifio troi mewn clych dros diagnosis) yna fydd raid i mi ddefnyddio "Perplexiy" neu "Quandry" (Saesneg yw prif iaith y doethuriaeth gan bo fi'n astudio yn Lerpwl)

Beth am 'gor-bryder' i ddisgrifio'r cyflwr
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan Kez » Llun 22 Rhag 2008 7:25 pm

Beth am fathu term fel 'cylch pryder di-ddiwedd'.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Rhag 2008 7:33 pm

Kez a ddywedodd:Beth am fathu term fel 'cylch pryder di-ddiwedd'.

Felly fysa fi'n sgwennu: Circle of unending anxiety.

Hmm, ond dim dyna dwi'n trio ei ddeud...dwi'n trio deud fwy fod e methu gwneud penderfyniad felly mae en 'stuck'. I fi y gair gorau i'w ddisgrifio mewn unrhyw iaith yw Penbleth, ond ella fydd raid fynd hefo Quandry os nad yw Penbleth yw weld yn ddigon unigryw fel gair...
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan Kez » Llun 22 Rhag 2008 7:37 pm

Yn y cymoedd, maen nhw'n galw rhywun fel 'ny yn 'wit wat' ond wi'm yn credu y bysa'r term 'na yn iawn mewn traethawd :)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Rhag 2008 8:30 pm

Kez a ddywedodd:Yn y cymoedd, maen nhw'n galw rhywun fel 'ny yn 'wit wat' ond wi'm yn credu y bysa'r term 'na yn iawn mewn traethawd :)

Hmm, na dwi'n cytuno a hynny :winc: Ella mai "Quandry" amdanni felly :(
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 22 Rhag 2008 11:18 pm

Ti ddim eisiau'r Gernyweg "fore an' end all" te? (forth hens dall - ffordd hynt dall). Tuedda i i gytuno a chdi - "quandary"
"Penbleth hapus i chi..."
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron