Tudalen 2 o 2

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 6:13 am
gan Gwenci Ddrwg
Yn eironig, ac yn gyd-ddigwyddiadol, ti'n ymddangos i fod yn rhyw fath o "quandry" ar hyn o bryd.

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Maw 23 Rhag 2008 7:59 am
gan sian
Beth am "dilemma"?

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ion 2009 9:21 pm
gan SerenSiwenna
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Yn eironig, ac yn gyd-ddigwyddiadol, ti'n ymddangos i fod yn rhyw fath o "quandry" ar hyn o bryd.


Ia wir! o ni wedi chwerthin ar hyn fy hun :P

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ion 2009 9:27 pm
gan SerenSiwenna
sian a ddywedodd:Beth am "dilemma"?


Wel gan ei fod yn fwy na jest dilemma, sef: yn trio dewis rhwng ddau penderfyniad. Mae e i wneud hefo teimlo'n stuck ac yn mynd trwy pob optiwn yn ei dro, gan troi mewn cylch a dal yn teimlo'n stuck....felly 'Quandry' neu 'Perplexity' yw'r geiriau Saesneg agosaf. O ni wedi meddwl ella (ag obeithio) fod 'Penbleth' yn cynnig yr esboniad agosaf ac felly fysai'n justified i'w ddefnyddio fel y mae pobl yn gwneud hefo eiriau Frangeg weithiau, gan ei roi yn y 'glossary'.....ond mae'n ymddangos mae dim ond yn fy mhen i y mae hyn yn gwneud synwyr....ah wel, diolch i chi gyd am fod yn rhan or drafodaeth :winc:

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2009 7:49 pm
gan Seonaidh/Sioni
O, petai gair Groeg fel "polylemma", efallai...

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 10:38 am
gan SerenSiwenna
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:O, petai gair Groeg fel "polylemma", efallai...


OOoo, Mae hynna'n diddorol iawn - ac felly mi fysa 'Penbleth' yn golygu 'dilemma' ond ynlle 'dau' 'lemma' (pardon the pun) mi fasa fo'n mwy nag un 'lemma'?

Wedi bod yn chwilio arlein ond does na ddim ffordd o wiro beth yw tarddiad y gair Penbleth i weld o lle ddaeth o ayyb....dim ond geiriadur yr academi sy' gen i adre Saesneg i Gymraeg....

Re: Tarddiad/ ystyr y gair Penbleth? Plis Help!

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 7:35 pm
gan dawncyfarwydd
Pen + pleth. Pen mewn cymysgwch.