Tudalen 1 o 1

Bathodynnau Iaith Gwaith ayyb

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 10:59 pm
gan xxglennxx
Y maent wedi bod ar gael ers oes rŵan, ond ydynt yn gweithio? Wyf yn gwisgo un yn wastad tra imi gerdded at unrhyw le, neu yng Nghasnewydd, Caerdydd ayyb, ac wyf heb ddod o hyd "y gwasanaeth" eto.

Rwyf wedi gweld poster oren yn Swyddfa'r Post Trefforest, felly tra imi fynd yno, wyf yn wastad aros ar y dyn yna i'm gwasanaethu, oherwydd ei fod yn siarad Cymraeg.

Beth ydy'r barnau o bawb eraill? Ydy'r bathodynnau iaith gwaith yn cael eu hysbysebu'n ddiogon, neu all y Bwrdd wneud mwy i'u hysbysebu?

Hefyd, beth am yr wasanaeth newydd a lansiwyd gan y Bwrdd "Mae Gen Ti Ddewis." Does dim llawer o sôn oddeutu hi eto nun lle. Gwelais i boster yn Orsaf Drên Caerdydd, ond sut yr wyddon ni fod yr wasanaeth ar gael efo'r person yr ydych yn siarad á (fel yn eich gwasanaethu chi mewn, e.e., Gorsaf Drên)?

Beth ydych yn meddwl dros y peth(au)?

Glenn

Re: Bathodynnau Iaith Gwaith ayyb

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 10:00 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dwim yn meddwl. Pryd rydw i yng Ngymru, rydw i'n disgwyl i neb sy am fy ngwasanaethu fedru'r Gymraeg, bathodyn te beidio.

Re: Bathodynnau Iaith Gwaith ayyb

PostioPostiwyd: Iau 08 Ion 2009 10:09 pm
gan xxglennxx
Dyna fo! Mae'r Cymdeithas a'r Bwrdd yn deud "Gwnewch bobeth yn Gymraeg," felly pryd bynnag imi fynd i mewn i rywle, fi'n deud (e.e.) "Ga i fag, plîs?" ac wedyn mae'n nhw'n deud "What?" wedyn bydd rhaid imi ailddeud fy hyn yn Saesneg. Weithiau fi'n meddwl 'beth ydi'r pwynt?'

Glenn

Re: Bathodynnau Iaith Gwaith ayyb

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 9:21 am
gan Hogyn o Rachub
Prin iawn iawn dwi wedi gweld pobl yn gwisgo'r rhain mewn siopau neu fanciau, er enghraifft, ond o be dwi'n ddallt cyfrifoldeb y cwmni ydi sicrhau eu bod ar gael. Efallai bod angen hysbysbu cwmnïau'n well ohonynt cyn gwneud dim arall.

'Runig dro dwi wedi gweld rhai yng Nghaerdydd ydi yng Nghanolfan y Mileniwm (lle ro'n i'n gweithio a doedd 'na ddim digon ohonynt nhw yno i mi gael un), a hefyd yn y sinema gan ryw ffatan yn ei arddegau wnaeth siarad Saesneg yn ôl i mi.

Re: Bathodynnau Iaith Gwaith ayyb

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 4:22 pm
gan xxglennxx
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Prin iawn iawn dwi wedi gweld pobl yn gwisgo'r rhain mewn siopau neu fanciau, er enghraifft, ond o be dwi'n ddallt cyfrifoldeb y cwmni ydi sicrhau eu bod ar gael.


Ia, ond be dwi'n golygu ydi bod bron neb, siaradwyr y Gymraeg eraill hyd yn oed, ddim yn gwpod be maen nhw'n golygu.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Efallai bod angen hysbysbu cwmnïau'n well ohonynt cyn gwneud dim arall.


Cynuno. Dwi'n meddwl bydd yn wych i cwmnïau gael bwrdd bach o lun ac enw'r bobl sy'n medru'r Gymraeg mewn fangre. Fel mae Tesco'n gwneud, "Cwrdd â'r Tîm" neu rywbeth fel hynny.

Hogyn o Rachub a ddywedodd:... a hefyd yn y sinema gan ryw ffatan yn ei arddegau wnaeth siarad Saesneg yn ôl i mi.


Maen nhw ar gael am ddim oddi wrth y Bwrdd. Chdi'n medru cael pecyn o bethau hefyd, fel bathodynna, sticeri, posteri ayyb. Ia, fi'n casau 'na! Mae'n digwydd yn wastad â'm ffrindiau - bydda i'n siarad Cymraeg â nhw, ac wedyn mi fydden yn ateb yn ôl yn Saesneg! :? :(