Tudalen 1 o 1

Sound bite

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 3:27 pm
gan y mab afradlon
Oes na ddywediad bachogyn y Gmraeg sy'n cyfleu ys un syniad a'r ymadrodd 'Sound Bite'?

Diolch

Re: Sound bite

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2009 3:33 pm
gan sian
"Sylw bachog" neu "seindalp" yw "Soundbite" yn ôl yr Atodiad i Eiriadur yr Academi. Dw i ddim yn siwr am y naill na'r llall.

"Dyfyniad bachog"? Siwr bod 'na bosibiliadau am derm difyr 'ma.

Re: Sound bite

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 11:01 pm
gan y mab afradlon
Diolch Sian.

Ron i'n gobeithio am rywbeth oedd yn cyfleu dirmyg tuag at yr elfen 'bachog yn well na sylwedd' sy ynghlwm (erbyn yn) a'r term Saesneg.

Unrhyw syniadau?