Tudalen 1 o 1

Addysg gorfodol trwy gyfrwng y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 11 Ion 2009 11:02 pm
gan y mab afradlon
Ydy rhywun yn gwybod pryd a dan pa amgylchiadau y dechreuodd gwersi Cymraeg gorfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg?

Diolch!

Re: Addysg gorfodol trwy gyfrwng y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 3:29 am
gan Kantorowicz
Mae Wicipedia yn dweud hyn: "Ers 1990 mae'r Gymraeg yn bwnc gorfodol i blant rhwng 5 ac 16 oed yng Nghymru heblaw mewn rhai ysgolion a ganiatawyd iddynt gael eu heithrio." Yn anffodus does dim ffynhonnell.

Mae rhai ffigyrau diddorol fan hyn gan Fwrdd yr Iaith.

Byddai'n werth darllen y llyfr hwn ar y pwnc, mae'n siwr: Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)

Dyna'r cyfan sy' gen i ar hyn o bryd.

Re: Addysg gorfodol trwy gyfrwng y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 12 Ion 2009 12:04 pm
gan Griff-Waunfach
Onid yw hi i wneud gyda deddf addysg 1988?