crugyn

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

crugyn

Postiogan sian » Llun 12 Ion 2009 9:49 pm

Dw i newydd ddarllen adolygiad Kate Crockett o nofel Wiliam Owen Roberts, Petrograd yma. Ynddi, mae'n dweud "Er na ellid fod wedi ysgrifennu nofel fel hon heb grugyn o waith ymchwil ..."

Ydi hynny'n iawn? Mae'n swnio'n rhyfedd i mi. I mi, mae "crugyn" yn golygu nifer fawr yn hytrach na swmp mawr. "O'dd crugyn o bobol 'na".
Mae GPC yn dweud "gweler crug" - grŵp, clwstwr, cwmni, lliaws, nifer mawr.
Ydi Kate Crockett wedi camddeall neu ydi "crugyn" wedi newid ei ystyr ers i fi adael y de?

Edrych mlaen at ddarllen y nofel, gyda llaw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: crugyn

Postiogan Kez » Llun 12 Ion 2009 10:53 pm

Onid yw'r defnydd o'r gair 'crugyn' yn ffigurol ?

Wi'n siwr bod yffach lot o gymeriadau yn y llyfr 'na ! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: crugyn

Postiogan sian » Llun 12 Ion 2009 11:14 pm

Kez a ddywedodd:Onid yw'r defnydd o'r gair 'crugyn' yn ffigurol ?


Yn ôl GPC, mae "crug(yn)" yn golygu "bryncyn, ponc, twmpath; carnedd, tomen; pentwr, twr, crynswth; tas, mwdwl;"
Felly, byset ti'n disgwyl iddo fe gael ei ddefnyddio'n ffigurol i olygu "llawer" yn yr ystyr "tomen o waith" - fel mae Kate Crockett yn ei ddefnyddio fe - ond chlywais i erioed mohono fe'n cael ei ddefnyddio fel'na - dim ond ar gyfer nifer fawr - neu eitha mawr - sef "grŵp, clwstwr, cwmni; lliaws, nifer mawr". Mae "Wnes i grugyn o waith heddi" yn swnio'n od i fi. Ond falle mai fi sy'n anghofio.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: crugyn

Postiogan Kez » Maw 13 Ion 2009 1:28 am

Ond wrth bod dyn yn defynyddio iaith ffigurol, dyw e ddim yn cadw at union ystyr rhyw air neu''i gilydd - dyna be sy'n cyfoethogi llenyddiaeth a dawn ymadrodd yr iaith lafar. Does neb fel arfer yn gweud rhywbeth fel 'tomen o bobol' ond wela i ddim byd yn bod ar hwnna os wyt ti' n ysgrifennu ne'n siarad am bobol nag os 'da ti gynnig iddyn nhw ne beth bynnag.

Peth deinamig yw iaith a 'sdim ffiniau iddi a 'sneb yn berchen arni 'chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: crugyn

Postiogan Kantorowicz » Maw 13 Ion 2009 3:44 am

Kez a ddywedodd: Peth deinamig yw iaith a 'sdim ffiniau iddi a 'sneb yn berchen arni 'chwaith.


Gwir pob gair. Eto, mae angen deall beth sy'n mynd ymlaen. Wrth sôn am 'domen' o bobl, mae hyn, siwr iawn, yn ddefnydd o fetaffôr i awgrymu bod rhywbeth yn natur torfol y bobl hyn sy'n ymdebygu i rywbeth mewn natur tomen. Yn yr un modd, os ydyn ni'n dadlau taw defnydd ffigurol (neu drosiadol, os mynnwch chi) o 'crugyn' sydd yma, onid oes angen ein bod ni'n medru esbonio pa fath o drosiad sydd ar droed fan hyn?

Neu, o leaif, ddal yn sownd yn yr hawl i fynnu gofyn (o leiaf) - a yw'n gweithio?
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: crugyn

Postiogan sian » Maw 13 Ion 2009 9:20 am

I mi, ystyr amlwg "crugyn" yw "nifer fawr", nid "bryncyn" (er mod i'n gwbod ei fod e'n golygu bryncyn hefyd) - Dyna sut y tarodd e fi'n od, mae'n siwr. Hynny yw, roedd e'n swnio i mi fel tyse rhywun yn dweud "Welais i erioed gynifer o waith" yn lle "gymaint o waith".

Falle mai'r peth rhyfedd fan hyn yw bod "crugyn" wedi mynd i feddwl "nifer fawr" yn hytrach na "swmp mawr" .
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron