Tudalen 1 o 3

Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Sad 07 Chw 2009 11:38 pm
gan Hedd Gwynfor
Yn ystod y dyddie nesaf byddwn ni'n ychwanegu ambell i nodwedd newydd:

SGWRSIO
NEWYDDION
BLOGIAU
CYSYLLTU

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan. Os hoffech chi weld unrhyw nodweddion ychwanegol, nodwch isod os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr i 'Duw' am wneud y gwaith o osod y nodweddion newydd! 8)

Re: Nodweddion Newydd

PostioPostiwyd: Sul 08 Chw 2009 2:26 am
gan Mali
Yn edrych ymlaen ...... :D

Re: Nodweddion Newydd

PostioPostiwyd: Sul 08 Chw 2009 6:59 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'r nodweddion newydd 'ma nawr yn fyw, a bydd mwy yn cael eu hychwanegu yn fuan gobeithio. Mae dolenni at yr adrannau newydd islaw'r prif logo uchod, neu pwyswch ar y dolenni isod:

# SGWRSIO
# NEWYDDION
# BLOGIAU

Os ydych chi'n wynebu unrhyw draffferthion, neu gyda syniadau am nodweddion newydd, postiwch yma.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2009 11:18 pm
gan Duw
Helo pawb, jest gair i ddweud bo sawl gwelliant wedi'i gynllunio. Yn anffodus, wrth geisio ag uwchraddio un ardal, gwnaeth broblem godi gyda' r pennyn (hysbyseb yn pallu ymddwyn!). Rwyf yn gweithio'n ddiffwdan i gywiro'r broblem. Ymddiheuriadau os ydych wedi gorfod dioddef newidiadau cyson i'r pennyn wrth ddefnyddio maes-e heno.

Gobeithiaf ddartrys y broblem erbyn nos yfory. :rolio:

/**********GOLYGIAD: 14/02/2009************/

Dyle fod popeth yn ol i'r olwg wreiddiol erbyn hyn. Cafodd ei phrofi gyda thoreth o borwyr, ond os ydych yn sylwi ar broblemau parthed golwg y fforwm, byddwch cystal ag anfon NB i mi.
Diolch yn fawr.

/**********GOLYGIAD: 15/02/2009************/
Diolch i ceribethlem am ei sylw parthed problemau postio IE7. Gallaf ond ymddiheuro ynglyn a hyn. Os oes trafferthion dal yn codi, ewch i ardal TRAFFETHION ar waelod tudalen yr hafan a phostio'r gweinyddwr.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 10:21 pm
gan Hedd Gwynfor
Fel yr ydych chi'n gweld mae nodweddion newydd yn cael eu hychwanegu i'r maes yn gyson ar hyn o bryd, diolch yn fawr iawn i Duw am ei holl waith. Mae tipyn o ystadegau a gwybodaeth newydd ar waelod y dudalen hafan erbyn hyn, ac mae bwriad ychwanegu mwy eto, gwyliwch y gofod... :winc:

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 6:47 pm
gan Duw
Helo pawb, dim ond gair cyflym i sôn am sawl nodwedd/ffwythiant newydd:

Postwyr ar y Brig
Ar waelod tudalen yr hafan mae adran yn dangos y postwyr sydd wedi cyfrannu mwyaf (erioed) a dros y 3 diwrnod diwethaf.

Y Mur
Dyma mur, yn debyg i'r hyn sydd ar sawl safle fel Facebook ac ati. Mae modd i chi ysgrifennu sylw i fur eich hunain neu i un rhywun arall. Wrth fewngofnodi, gallwch weld o'r bar o dan y pennyn os ydych wedi derbyn sylw newydd. Cofiwch fydd modd i bawb weld y sylw hwnnw!
Delwedd

Golwg cyflym ar y mur:

Delwedd

Os oes problem wrth ei ddefnyddio, rhowch NB i mi yn ddiymdroi.

Mwy o ategynnau/mods i ddod.

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 10:33 pm
gan Mali
Ah ...diolch am yr eglurhâd ! Mi ges i neges ar fy mur bore 'ma , a dim syniad beth i wneud.
Ai dim ond y rhai sydd yn aelodau o maes-e e fedr weld y negeseuon ar y mur ?

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 11:18 pm
gan Duw
Ie, dim ond aelodau. Nid oes modd i'r rheini sydd methu â mewngofnodi weld proffeil unrhyw aelod beth bynnag. Gallwch geisio hyn eich hunain. Triwch edrych ar broffeil aelod cyn i chi fewngofnodi. Os oes modd i chi ei wneud, cysylltwch â mi yn ddiymdroi (NB) - ychydig mwy o godio i wneud felly!

Ger llaw dwi wedi gosod ategyn newydd i'r rheini ohonoch sy'n defnyddio Skype. Gallwch nawr osod eich manylion Skype i'ch proffeil. Os ydych am wneud hyn, bydd angen i chi fod yn barod i fod yn "Agored"

Mae'n rhaid dweud fod hwn yn weddol arbrofol a hoffwn unrhyw adborth da/drwg (NB), diolch.

//======GOLYGU 00:56 Chw 20, 2009========//
Ymddiheuriadau am golli'r botymau am awr a hanner. Roedd y mods newydd wedi disodli'r 'imageset'. Dylai fod popeth yn iawn nawr (ar ôl trawiad y galon!!)

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Sad 21 Chw 2009 8:48 pm
gan Duw
RHANNU

Delwedd

Fe welwch botwm RHANNU ar frig tudalen bwnc. Gallwch ddefnyddio hwn i ychwanegu nod tudalen (bookmark) i sawl lle:
  • ffefrynnau
  • ebost cyfaill
  • safleoedd cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter ac ati

Dwi wedi cyfieithu rhyngwyneb y ffurflen fechan, ond yn anffodus, nid oes modd cyfieithu'r ffurflen sy'n ymddangos ar bwyso 'mwy...' Felly, ymddiheuriadau parthed y Saesneg yn y fanna.

Mae hwn yn ffordd gwych er mwyn amlygu maes-e.com dros y rhyngrwyd. Os hoffech fanylion pellach, cysylltwch â mi gan NB.

Yn ogystal a hwn, mae newidiadau i'r graddau:
  • Defnyddiwr - Llai na 100 neges
  • Defnyddiwr Efydd - 100+ Neges
  • Defnyddiwr Arian - 500+ Neges
  • Defnyddiwr Aur - 1,000+ Neges
  • Defnyddiwr Platinwm - 10,000+ Neges
  • Cymedrolwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
  • Gweinyddwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
  • Cerdyn Melyn - Gwaharddiad dros dro am dorri Canllawiau maes-e
  • Cerdyn Coch - Gwaharddiad am byth am dorri Canllawiau maes-e

Re: Nodweddion Newydd maes-e.com

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 5:22 pm
gan eusebio
Duw a ddywedodd:Yn ogystal a hwn, mae newidiadau i'r graddau:
  • Defnyddiwr - Llai na 100 neges
  • Defnyddiwr Efydd - 100+ Neges
  • Defnyddiwr Arian - 500+ Neges
  • Defnyddiwr Aur - 1,000+ Neges
  • Defnyddiwr Platinwm - 10,000+ Neges
  • Cymedrolwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
  • Gweinyddwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
  • Cerdyn Melyn - Gwaharddiad dros dro am dorri Canllawiau maes-e
  • Cerdyn Coch - Gwaharddiad am byth am dorri Canllawiau maes-e


wwww ... dwi'n meddwl bod rhain yn edrych yn cheap a tacky - roedd y spots a sêr yn edrych lot gwell.
Sori.