Shwd mae'n shiglo, bobol - fi'n gw'pod fi'n troi lan yn anaml iawn dyddie hyn, ond unwaith yn Maeswr, wastod yn maeswr.
Beth bynnag, ma gennai cwestiwn - fel rhan o'm swydd ma' rhaid i fi wneud cyfieithu syml weithie - ac ar hyn o bryd wy'n ceisio cynllunio taflen hysbysebu am ein cynhadledd blynyddol eleni. Thema y peth yw "Learning From Our Peers" - a fi'n whilo am dywediad Cymraeg sy'n golygu'r r'un peth. Unrhyw awgyrmiade?
Sai'n siwr amdano chi, ond yn bersonnol sai'n lico'r cyfieithiad llythrennol.
Diolch yn fowr!