Tudalen 1 o 1

"Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 1:24 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Shwd mae'n shiglo, bobol - fi'n gw'pod fi'n troi lan yn anaml iawn dyddie hyn, ond unwaith yn Maeswr, wastod yn maeswr. :)

Beth bynnag, ma gennai cwestiwn - fel rhan o'm swydd ma' rhaid i fi wneud cyfieithu syml weithie - ac ar hyn o bryd wy'n ceisio cynllunio taflen hysbysebu am ein cynhadledd blynyddol eleni. Thema y peth yw "Learning From Our Peers" - a fi'n whilo am dywediad Cymraeg sy'n golygu'r r'un peth. Unrhyw awgyrmiade?

Sai'n siwr amdano chi, ond yn bersonnol sai'n lico'r cyfieithiad llythrennol.

Diolch yn fowr! :D

Re: "Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 2:00 pm
gan sian
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Thema y peth yw "Learning From Our Peers" - a fi'n whilo am dywediad Cymraeg sy'n golygu'r r'un peth. Unrhyw awgyrmiade?


Odi "Dysgu oddi wrth Ein Gilydd" yn rhy llac? Os oes angen rhywbeth mwy manwl arnat ti, efallai y gallet ti roi syniad pa fath o sefydliad yw e.

Dw i ddim yn licio defnyddio "cyfoedion" a "cymheiriaid" am "peers" os nad oes raid.

Re: "Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 2:20 pm
gan Y Fampir Hip Hop
sian a ddywedodd:Dw i ddim yn licio defnyddio "cyfoedion" a "cymheiriaid" am "peers" os nad oes raid.


Na finne chwaith! :)

sian a ddywedodd:Odi "Dysgu oddi wrth Ein Gilydd" yn rhy llac? Os oes angen rhywbeth mwy manwl arnat ti, efallai y gallet ti roi syniad pa fath o sefydliad yw e.


Ma' sefydliad ni yn gwithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn unig - Bwriad y cynhadledd yw rhannu syniade ynglyn a practis da a.y.y.b 'da sefydliadau tebyg yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd "Dysgu oddi wrth ein cymydogion" yn mwy addas - ond o ni'n ceisio dod o hyd i rhywbeth tymed bach mwy 'snappy'!

Re: "Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 7:07 pm
gan Seonaidh/Sioni
Sdim le am dipyn o sbort, nag oes, fel "Dysgu oddi wrth ein Harglwyddi"?

Re: "Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Sad 21 Chw 2009 2:12 pm
gan adamjones416
Beth am "Gwneud ein gorau glas, Dysgu gyda'n gilydd."

"Dewch i Rannu, Dewch i Ddysgu, Dewch gyda Ni"

"Rhannwch, Dysgwch, Cymdeithaswch"?

Ennyn syniadau wrth rannu awgrymiadau?

Amhrisiadwy yw addysg ein cymdogion?

Amhrisiadwy yw dysg a dawn ein cymdogion?

A sai'n gwbo hehe wel fi 'di treial yn'do.

Re: "Learning From Our Peers"

PostioPostiwyd: Sad 21 Chw 2009 2:18 pm
gan Kez
Beth am 'Gorau arf, arf dysg ein gilydd'