Think Tanks

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati.

Think Tanks

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Chw 2009 4:07 pm

Mae Bruce yn rhoi 'seiadau doethion'. Mae'n rhaid fod na derm callach yn cael ei ddefnyddio, ond be ydi o?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Think Tanks

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Chw 2009 4:19 pm

Mae yn cynnig 'melin drafod', sy ddim yn 'gall' ond mae'n well na seiadau doethion! Dwi'n meddwl bod 'pwyllgor ystyried' hefyd yn cael ei ddefnyddio er bod hwnnw'n eitha di-fflach.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Think Tanks

Postiogan sian » Llun 16 Chw 2009 4:53 pm

Dw i wedi gwneud nodyn o "seiat syniadau" ond heb ddweud lle ces i e.
Mae 'na sawl enghraifft ar y we.


sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Think Tanks

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 18 Chw 2009 7:17 pm

Be di gwreiddyn y Saesneg? I fi, dydy'r term "think tanks" yn gwneud synnwyr, ond mae'n swnio tipyn yn ddoniol, felly dyna'r term sy gan y Saesneg. Felly, efallai, er mwyn cael term Cymraeg cyfartal, rhaid wrth rywbeth sy ddim yn ystyried yn llythrennol "seiadau syniadau" new "tanciau meddwl" ond sy'n golygu rhyw gasgliad o "ddoethion" yn sgwrsio gyda'i gilydd ar ryw set o broblemau arbennig, heb fod hynny'n union, ac yn edrych/swnio braidd yn ddoniol hefyd. A cofia'r gynghanedd - mae -nk yn cynganeddu yn "think tank".
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron