Tudalen 1 o 1

Think Tanks

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 4:07 pm
gan Mr Gasyth
Mae Bruce yn rhoi 'seiadau doethion'. Mae'n rhaid fod na derm callach yn cael ei ddefnyddio, ond be ydi o?

Re: Think Tanks

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 4:19 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae termcymru yn cynnig 'melin drafod', sy ddim yn 'gall' ond mae'n well na seiadau doethion! Dwi'n meddwl bod 'pwyllgor ystyried' hefyd yn cael ei ddefnyddio er bod hwnnw'n eitha di-fflach.

Re: Think Tanks

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 4:53 pm
gan sian
Dw i wedi gwneud nodyn o "seiat syniadau" ond heb ddweud lle ces i e.
Mae 'na sawl enghraifft ar y we.

Re: Think Tanks

PostioPostiwyd: Mer 18 Chw 2009 7:17 pm
gan Seonaidh/Sioni
Be di gwreiddyn y Saesneg? I fi, dydy'r term "think tanks" yn gwneud synnwyr, ond mae'n swnio tipyn yn ddoniol, felly dyna'r term sy gan y Saesneg. Felly, efallai, er mwyn cael term Cymraeg cyfartal, rhaid wrth rywbeth sy ddim yn ystyried yn llythrennol "seiadau syniadau" new "tanciau meddwl" ond sy'n golygu rhyw gasgliad o "ddoethion" yn sgwrsio gyda'i gilydd ar ryw set o broblemau arbennig, heb fod hynny'n union, ac yn edrych/swnio braidd yn ddoniol hefyd. A cofia'r gynghanedd - mae -nk yn cynganeddu yn "think tank".