Tudalen 1 o 1

Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Iau 19 Chw 2009 5:06 pm
gan tachwedd5

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 5:52 pm
gan Ffrinj
Diogrwydd llwyr! Mae'n amlwg dydi cyfieithwyr ar-lein ddim yn gweithio. Buasech chi'n meddwl bod gennyn nhw synnwyr cyffredin o leia.

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 1:45 am
gan Dai dom da
Dim ots pa mor ddiog ac anghywir ma'r treigladau 'ma, ma nhw wastod yn blydi hilariys!

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 11:34 am
gan ger4llt
Ma hwn yn arwydd eitha peryglus i fod yn onasd, achos ma'n gwrdd-ddweud y Saesneg yn gyfan gwbwl - "Dydy 'n anghyfreithlon"... felly ma'n gwbwl gyfreithlon i ysmygu yn Wilkinsons felly! 8)

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 6:47 pm
gan mabymynydd
Gwaith Intertran eto. Rwy wedi clywed am enghraifft o'r un frawddeg yn y ganofan ddinesig yn Abertawe.

Mae safon yr arwyddion yna yn arbennig o ddrwg.

"marwolarthau a phriodesau" "llyfrgell a archifau" "Dydd Marth", "Llyfrgell lawr cyntafry" ac yn y blaen. Rwy wedi cyfri 12 camgymeriad rhwyng y maes parcio a'r llyfrgell.

Ac mae'r negeseuon dros y "tanoy" yn camdreiglo hefyd.
Does dim rhyfedd bod y cyngor wedi gwneud yr arwydd enwog "Nid wyf yn y swyddfa ...."

Maen nhw'n anobeithiol.

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 7:07 pm
gan Seonaidh/Sioni
Cymeraf nad ydyn nhw'n gwneud camgymeriadau tebyg yn Saesneg...

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Sad 09 Mai 2009 11:06 pm
gan Merch y Llyn Du
Trueni na fyddai'r gohebydd wedi dweud mai peiriant cyfieithu oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am y cyfieithiad.

A beth am safon Cymraeg y bachgen ysgol oedd yn cwyno?...

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 11:22 am
gan Duw
beth am safon iaith gwefan y BBC? Ar y bar ochr ar y gwaelod:

'Newyddion Mewn Ieithoedd Erail'

OK, jest 'teipo'.

Re: Arwydd Ysgmygu yn Wilkinson.

PostioPostiwyd: Sul 10 Mai 2009 3:21 pm
gan Ray Diota
Merch y Llyn Du a ddywedodd:Trueni na fyddai'r gohebydd wedi dweud mai peiriant cyfieithu oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am y cyfieithiad.


iyp...

sai'n deall y peth achos ma'r arwydd yn un sy 'di cal 'i gyfieithu'n gywir gan gyfieithwyr y llywodraeth ta beth (beth bynnag ych chi'n meddwl am y gair 'mangre') on i'n hanner meddwl bo rhaid cal arwydd swyddogol y cynulliad i neud y peth yn hollol gyfreithiol ta beth...