Ma hwn yn arwydd eitha peryglus i fod yn onasd, achos ma'n gwrdd-ddweud y Saesneg yn gyfan gwbwl - "Dydy 'n anghyfreithlon"... felly ma'n gwbwl gyfreithlon i ysmygu yn Wilkinsons felly!
Gwaith Intertran eto. Rwy wedi clywed am enghraifft o'r un frawddeg yn y ganofan ddinesig yn Abertawe.
Mae safon yr arwyddion yna yn arbennig o ddrwg.
"marwolarthau a phriodesau" "llyfrgell a archifau" "Dydd Marth", "Llyfrgell lawr cyntafry" ac yn y blaen. Rwy wedi cyfri 12 camgymeriad rhwyng y maes parcio a'r llyfrgell.
Ac mae'r negeseuon dros y "tanoy" yn camdreiglo hefyd. Does dim rhyfedd bod y cyngor wedi gwneud yr arwydd enwog "Nid wyf yn y swyddfa ...."
Merch y Llyn Du a ddywedodd:Trueni na fyddai'r gohebydd wedi dweud mai peiriant cyfieithu oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am y cyfieithiad.
iyp...
sai'n deall y peth achos ma'r arwydd yn un sy 'di cal 'i gyfieithu'n gywir gan gyfieithwyr y llywodraeth ta beth (beth bynnag ych chi'n meddwl am y gair 'mangre') on i'n hanner meddwl bo rhaid cal arwydd swyddogol y cynulliad i neud y peth yn hollol gyfreithiol ta beth...