A ody gweud 'daiff' yn lle 'daw' yn gyffredin erbyn hyn?:
daw e yfory
daiff e yfory
Nid peth newydd yw e, fi'n cofio ei glywad e flynydda'n ol - ond ife daiff yw'r ffordd mwya cyffredin erbyn hyn o weud daw yn y de, ac a odi fe'n digwydd yn y Gogledd hefyd?
Wela i ddim byd yn bod arno - ma'n dilyn patrwm aiff, gaiff ayb - jwst moyn gwbod pwy mor gyffredin yw e.