Tudalen 1 o 1

Daiff

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 10:08 pm
gan Kez
A ody gweud 'daiff' yn lle 'daw' yn gyffredin erbyn hyn?:

daw e yfory
daiff e yfory

Nid peth newydd yw e, fi'n cofio ei glywad e flynydda'n ol - ond ife daiff yw'r ffordd mwya cyffredin erbyn hyn o weud daw yn y de, ac a odi fe'n digwydd yn y Gogledd hefyd?

Wela i ddim byd yn bod arno - ma'n dilyn patrwm aiff, gaiff ayb - jwst moyn gwbod pwy mor gyffredin yw e.

Re: Daiff

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 10:50 pm
gan Hedd Gwynfor
Deith fydda i'n dweud. h.y. Deith e fory. Rhai pobl yn dweud Deiff hefyd.

Re: Daiff

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 11:07 pm
gan sian
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Deith fydda i'n dweud. h.y. Deith e fory. Rhai pobl yn dweud Deiff hefyd.


Fi gyda Hedd ar hwn.