Tudalen 1 o 1

Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 3:19 pm
gan tachwedd5
Mae flin gen i am ofyn gwestiwn eithaf syml ond pryd dwi'n defnyddio gwirydd sillafu mae'n wastad yn codi lan "Dw" fel gair anghywir. Y cewstiwn yw hon, beth yw'r fersiwn cywir: dw i neu dwi'n. diolch pawb! Geraint.

Re: Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 3:25 pm
gan Duw
Dwi ddim yn credu bo unrhyw un ohonyn nhw'n gywir - rwi, rw i, rydw i, rwyf ac ati am byth amen - talfyriadau o 'yr ydwyf i' a 'nid ydywf i' (o fy neall i - er mae 'real heavyweights' y seiat 'ma'n gallu manylu'n bellach dwi'n siwr). :?

Re: Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 4:05 pm
gan sian
Dydi'r llyfrau gramadeg 'safonol' - Peter Wynn Thomas a David Thorne - ddim yn sôn am y naill na'r llall hyd y gwela i.
PWT - wyf yn safonol a wy, 'rwy, 'dwy, 'rydw yn llafar
DTh - wyf, ydwyf yn safonol ac (yd)w yn llafar

Dwi'n tueddu i sgrifennu dwi yn weddol anffurfiol - achos mai Fi dwi'n ddweud, dwi'n meddwl!

Mae Modern Welsh gan Gareth King - i ddysgwyr dwi'n meddwl - yn rhoi dw i

Re: Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 4:36 pm
gan Kez
Byswn i'n meddwl taw'r ffurfiau gwreiddiol llafar yw pethach fel fi, yfi, wi, dw i ayb ac nid talfyriadau o ffurfiau fel yr ydwyf i. Wi'n siwr bod yr ydywyf fi yn ffurf lenyddol a grewyd i roi dillad parch ar wi, fi ac ati.

Er hynny, wi'n meddwl bod nhw'n gweud mi'r ydw i yn y Gogledd sy'n reit debyg i yr ydwyf i, felly falla bo fi'n gyfeiliornus fan hyn.

Re: Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 5:06 pm
gan Duw
Wel Tach, gweld dy fod yn dod o Rydaman, dw i /dwi yw'r lleia o dy brobleme!! Ebe un o'r Gwter Fawr. :ffeit:

Re: Dw i / Dwi'n

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 10:09 pm
gan tachwedd5
Duw a ddywedodd:Wel Tach, gweld dy fod yn dod o Rydaman, dw i /dwi yw'r lleia o dy brobleme!! Ebe un o'r Gwter Fawr. :ffeit:

lol :D - Paid atgoffa i !!

Diolch i pawb sy wedi ymateb hyd yn hyn!