Tudalen 1 o 1

'That which does not kill me...'

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 2:18 pm
gan hafwen
Helo! Ma' fy mrawd i di gofyn i mi gyfieithu'r dywediad Saesneg 'that which does not kill me only makes me stronger' a dwi i ffili meddwl am unrhywbeth sy'n swnio'n dda o gwbwl, felly, oes awgrymiadau gyda chi? Diolch!!!

Re: 'That which does not kill me...'

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 2:38 pm
gan bartiddu
Yr hyn ni all fy lladd gall ond neud fi’n gryfach 'na'n ymgais i ta beth! :)

Re: 'That which does not kill me...'

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 2:42 pm
gan sian
A! Nietzsche! (meddai hi wedi Gwglo)

Mae'r fersiwn ffeindiais i ychydig bach yn wahanol - ddim yn cynnwys y "just" - ac mae hynny'n ei wneud yn haws i'w gyfieithu:

"That which does not kill us makes us stronger.”
"Mae'r hyn nad yw'n ein lladd yn ein cryfhau."

Dw i ddim yn siwr ydi e'n wir - ond mater i Nietzsche yw hynny :lol:

Re: 'That which does not kill me...'

PostioPostiwyd: Mer 25 Chw 2009 8:52 pm
gan Seonaidh/Sioni
Efallai'r peth gorau fyddai i ganfod yr Almaeneg a'i chyfieithu'n syth i'r Cymraeg.