Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan tachwedd5 » Llun 09 Maw 2009 8:13 pm

wedi eu dileu.
Golygwyd diwethaf gan tachwedd5 ar Mer 03 Chw 2010 1:43 pm, golygwyd 3 o weithiau i gyd.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 09 Maw 2009 8:27 pm

Wel. Dychymyg hyn: Rwyt ti newydd ddod i Gymru o, dyweder, yr Eidal ac dydy dy Saesneg ddim yn hynod o dda eto. A dyna, yn yr un swyddfa, neb arall o'r Eidal yn gweithio. O bryd i'w gilydd dyna'r ddau ohonoch yn sgwrsio yn yr Eidaleg. Fasai dy reolwraig yn cwyno am hyn tybed?

Does dim cyngor gen i - dwi ddim yn gyfarwydd a'r fath sefyllfa ac dwi'm yn gwybod pa mor awyddus rwyt ti am gadw dy swydd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan tachwedd5 » Llun 09 Maw 2009 8:36 pm

wedi eu dileu.
Golygwyd diwethaf gan tachwedd5 ar Mer 03 Chw 2010 1:43 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan Rhys » Llun 09 Maw 2009 8:57 pm

Mae'n gwilydd o beth, ond dw i ddim yn gwybod beth ydy dy hawliau yn ôl deddf gwlad. Y peth gorau fyddai ffonio Bwrdd yr Iaith a/neu cymdeithas yr iaith bore fory. Mae sefyllfaoedd tebyg wedi codi yn y gorffenol (Thomas Cook yn Bangor yn ddiweddar e.e.) Er yn achos Thomas Cook, ceisio rhwystro gweithwyr i siarad ymysg eu gilydd oeddynt, sydd ychydig yn wahanol i dy sefyllfa di, achos siarad a chwsmer wyt ti - oes gan y cwmni bolisi 'Saesneg yn unig'?

Mae'n sefyllfa anodd, achos hyd yn oed pe tai ti 'o fewn dy hawliau' fyddai'r rheolwr yn debygol o wneud dy fywyd yn anodd petai ti'n parhau i siarad Cymraeg tybed (er wedyn, byddai mwy o hawiai gyda ti os yw'r rheolwr yn gwahaniaethu yn dy erbyn oherwydd dy iaith).

Efallai byddai'n werth cysylltu a dy AC (Rhodir Glyn Thomas) neu dy AS (Adam Price). Gallet eu ffonio ond does dim rhaid i ti enwi dy gwmni i ddechrau gyda.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan Llefenni » Llun 09 Maw 2009 8:59 pm

Haia Tachwedd5 - diolch am bostio dy hanes yma :)

Dwi ddim yn siwr beth yw dy hawliau - a dwi'n eitha siwr y bydd rhywun yma yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i ti cyn bo hir.

Ar hyn o bryd, alli di roi sbin da iawn ar hyn os bydd o'n digwydd eto - rwyt ti'n siarad gyda cwsmer, a felly yn rhoi gwell gwasanaeth i'r cwsmer achos dy fod n siarad Cymraeg gyda nhw - win win situation!

Os di'r boss yn bod yn weird eto, fe alli di jyst ddeud os oes problem ganddi falle dyle ti gael siawns i amddiffyn du hunan o flaen aelod mwy senior o'r staff, bydd yn deall dy fod yn yn helpu'r cwsmer.

Sori am fwydro - bydd rwyn yma cyn hir i ddeud os oes lle i ti fyd a hyn yn bellach.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan Duw » Llun 09 Maw 2009 9:36 pm

Rwyt yn dod o Rydaman neu gweithio'n Rhydaman (neu agos). Os felly, dwi'n sicr bydde hwn yn fater difrfiol i atal person rhag cyfathrebu trwy'r iaith Gymraeg. Os yn Lloegr a bod polisi uniaith Saesneg, posib bod hwnna'n fater gwahanol. A oes gan y cwmni bolisi uniaith Saesneg? A ydy 'head office' yn mynnu ar Saesneg ar gyfer pob sgwrs ffôn yng Nghymru? Os felly, dwi'n meddwl bydde sawl asiantaeth a'r cynulliad â diddordeb yn dy sefyllfa.

Nid yw dy broblem yn unigryw yn yr ardal. Dwi'n dod o Frynaman yn wreiddiol a dwi wedi colli cownt o sawl gwaith gwnaeth Saeson gymryd drosodd tafarndai yr ardal a mynnu'r Saesneg neu 'get out'. Roedd y Bakers (Tairgwaith) a'r George (Cwmtwrch) yn enghreifftiau enwog yr adeg (80au) - gwnaeth y South Wales Guardian cael gafel ar y diawled - name and shame.

Hoffen i ddweud ei bod hi'n haeddu cic yn y cloj, ond bydd yn ofalus - cer amdani yn y ffordd gywir - mae angen addysgu'r pobl 'ma nid gwneud gelynion mas o nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan Kantorowicz » Maw 10 Maw 2009 12:45 am

Yn yr achos yma mae'n ymddangos yn gymharol rwydd, am taw siarad â chwsmer ydych chi. Cewch ddweud wrth eich bos taw'r cwsmer sy'n dewis siarad Cymraeg am ba bynnag reswm ac na hoffech chi geisio mynnu ei b/fod yn newid iaith rhag ofn y bydd yn troi ei g/chefn ar y cwmni.

Mae'n bosibl y gall trafodaeth ddiddorol ddeillio o hyn, ac os trafodwch chi'n gall gyda'ch bos, efallai y caiff ddysgu rhywbeth pwysig am Gymru. Oes na Gymro neu Gymraes (neu Sais deallus) yn uwch i fyny yn y cwmni y gallet ti fynd ato/i i gael cyngor (fel y dywedodd Llefenni)?

Da iawn, wir, am gadw'r iaith yn hyglyw.

Eto, rhaid imi ddweud nad ydw i'n cytuno gyda'ch awgrym taw'r dewis gorau bob tro yw i fod yn "gwrtais" a throi at y Saesneg pan fydd rhywun di-Gymraeg o gwmpas. (os deallaf yn gywir y darn a ddyfynnaf yma):
Mae digon o synnwyr gen i ac yn digon cwrtais i siarad Saesneg os mae saes yn yr un ystafell efo siaradwyr Cymraeg


Y Cymry'n troi yn rhy gyflym at y Saesneg ydy un o'r ffactorau (os nad y brif ffactor) fydd yn sicrhau tranc yr iaith. I ddefnyddio'r gymhariaeth Eidalaidd unwaith eto - mae'n annhebyg y byddai criw o frodorion yn Rhufain yn troi mor glou at iaith arall. Mae angen magu cymdeithas *ddwyieithog* yng Nghymru, lle na fydd y Saesneg yn gorfod cael blaenoriaeth o gwbl.

... a bydd newid barn eich bos yn gam pwysig ymlaen! :) Pob lwc!
Kantorowicz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Sad 10 Ion 2009 5:59 am

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan bed123 » Maw 10 Maw 2009 5:28 pm

Helo Tachwedd5, mae agwedd wrth iaith Gymraeg felly mynd o dan fy nghroen i. Y peth ydi, y cwsmer oedd yn siarad Cymraeg! Fysa'r cwmni yn hapus colli cwsmeriaid oherwydd dy nhw ddim yn cael siarad yn eu dewis iaith? A fysa'r cwmni yn croesawu 'bad publicity' fel gafodd Thomas Cook os fysa chdi mynd i'r cyfryngau? Fuaswn i awgrymu ffonio Bwrdd yr Iaith am gyngor. Mae gen dy fos dewis wrth gwrs, sef dysgu'r iaith unlle cwyno am rhai sy medru. Rydyn ni yn byw yn Cymru, wlad lle mae bobol hefo perffaith hawl i ddefnyddio'r ddwy iaith. Mae'n chwerthinllyd ac yn wirion i feddwl bod rhai yn dod i fyw i Gymru yn synnu bod pobol yn siarad Cymraeg, mae’n debyg i rwy’n mynd i bwyty a wedyn synnu fod yna fwyd.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan ElinorSian82 » Mer 11 Maw 2009 10:53 am

Rydw i ond yn postio neges i dy gefnogi di gyda dy ymdrech i gadw'r Gymraeg yn fyw yn y gweithle. Nid yw bobl di gymraeg yn deall pa beth yw e i fod yn wlad dy hyn a gorfod brwydro i siarad iaith dy hun. Dydyn nhw ddim yn cael yr un trafferthion yn Lloegr. Y cwsmer sydd wastad yn iawn ac os ydyn nhw'n teimlo'n fwy hyderus i wneud trafodion yn y Gymraeg yna dyletswydd y cwmni yw i ddarparu hynny heblaw ei bod nhw'n barod i golli cwsmeriaid. Mae agwedd tebyg gan bobl nid yn unig cyflogwyr yn mynd dan yng nghroen i. Mae'n hen bryd i weld newid yn agwedd y bobl yma. Pob lwc i chi gyda'r frwydr bach yma. Bydden i'n licio clywed diwedd y gan.

Elinor.
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

Postiogan tachwedd5 » Mer 11 Maw 2009 9:42 pm

wedi eu dileu.
Golygwyd diwethaf gan tachwedd5 ar Mer 03 Chw 2010 1:44 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron