Tudalen 2 o 2

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 10:21 pm
gan 7ennyn
Gofyn i dy fos egluro ei pholisi iaith i'r cwsmer ei hun. Wedyn tria guddio dy smygrwydd pan fydd y cwsmer yn dympio'r cwmni a throsglwyddo ei busnes i gwmni arall :winc: .

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Mer 11 Maw 2009 10:50 pm
gan Duw
7ennyn - Mephistopheles neu Machiavelli yw dy enw canol?

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 10:52 am
gan Llefenni
Tachwedd5 - cofia yrru'r stori hon at Gymdeithas yr Iaith - mae nhw'n chwilio am dystiolaeth o annhegwch ynglyn a'r iaith http://maes-e.com/viewtopic.php?f=3&t=27151

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 8:06 pm
gan tachwedd5
wedi eu dileu.

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 9:24 pm
gan Hedd Gwynfor
Geraint, mae agwedd dy reolwraig yn gwbl gywilyddus. Mae'n enghraifft perffaith o'r angen am fesur iaith cyflawn sy'n rhoi'r hawl cyfreithiol i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 4:00 am
gan Kantorowicz
Rhoi cyhoeddusrwydd i'r math yma o ddigwyddiad sydd eisiau. Mae 'na ormod o bobl sy'n meddwl nad oes dim byd o gwbl o'i le ar y sefyllfa bresennol.

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 10:43 am
gan Blewyn
Geraint, pam ddiawl ti'n fodlon gadael dy waith dros hyn ??? Os ti am golli dy waith o leia gwna fo drwy wrthod siarad Saesneg a chodi twrw efo bos dy fos. Yn fy marn i mae'r peth yn syml - d'oes ganddi mo'r cymhwysterau i wneud ei gwaith, h.y. ni fedr hi siarad Cymraeg, ac felly ni fedr hi wrando ar dy sgwrs efo dy gwsmer. Fedr dy gwsmer helpu - fysa fo'n fodlon mynd a'i fusnes o'cw dros y mater hyn, neu fynny eu bod yn dy gadw a dy fod yn cael siarad Cymraeg ? Paid da chdi a gadael i'r peth gael ei sgybo dan y carped....os ti am adael o leia gwna'n siwr dy fod yn rhoi cic gryf yn nghew yr ast wrth-Gymreig cyn cael dy luchio allan (drwy ddangos i'w meistri mor wael yw ei gallu rheoli, nid cicio hi go iawn...stedi wan)

Ti wedi siarad efo cyfreithiwr go iawn am hyn, yn ogystal a siarad efo gwleidyddion a cachfalwyr Maes-E ? Diawl o beth ydy colli dy waith...a d'oes'na'm rhyw lawer iawn ohono i fynd o gwmpas......cysur oer iawn fydd slap ar dy gefn yn cyberspace pan mae dy fets i gyd yn mynd ar eu holides a ti adre ar y dol.....

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 6:14 pm
gan Duw
Tachwedd5 - paid â rhoi lan dy waith - jest paid.

Nid ti sydd wedi gwneud unrhyw beth o le - dylet ti ddim ymddeol. Parha i siarad Cymraeg gyda'r cwsmeriaid. Gad hi roi rhybudd swyddogol i ti am hyn - caiff hi llwyth o gachu ar ei phen wedyn. Dwi'n siwr bo llwyth o bobl yr ardal yn fodlon protestio tu allan i'r swyddfa - efalle bydd BBC/HTV/S4C â diddordeb os oedd digon o ffwdan.

Beth yw natur y gwaith?

Tybed a fydde galwade ffon oddi wrth sawl un fan hyn dros y diwrnode nesa yn gofyn am wasanaeth Cymraeg /y gallu i drafod busnes trwy'r Gymraeg o fudd?

Gwnes i grybwyll taw addysg oedd ishe ar yr ast 'ma mewn post cynt - dwi wedi newid fy meddwl - deffinet cic yn y cloj. Winda'r hwren lan.

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 7:28 pm
gan Kantorowicz
Gweithredu'n gall sydd eisiau, fel oedd Blewyn yn awgrymu. Cyfuniad o gyngor Blewyn a Duw, felly - parhau i siarad Cymraeg nes bod rhywbeth yn digwydd yn swyddogol, a chael cwyn yn d'erbyn yn ysgrifenedig, os yw dy fod yn penderfynu bod mor hurt. Gyda hynny bydd tystiolaeth glir a bydd yn haws profi'r achos (efallai fod tystion yn barod: os felly rwyt ti mewn sefyllfa gref yn barod, ond byddai tystiolaeth ysgrifenedig yn fanteisiol dros ben, 'swn i'n meddwl).

Gall y digwyddiad wedyn droi'n fanteisiol, nid yn unig iti, ond hefyd i'r frwydr ehanganch am hawliau iaith.

Re: Hawl i siarad fy Iaith! Darellenwch os gwelwch yn dda!

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 9:27 pm
gan tachwedd5
Diolch i bawb sy wedi ymateb,

Am y tro, mae fy rheolwr wedi cytuno fy mod i'n gallu siarad yn y Gymraeg. Y rheswm am hon yw oherwydd roeddwn i'n fodlon adael dros y peth (mewn rhyw fath o "brotest"). Rwy'n gwybod am ffaith y rheswm mae hi wedi sefyll lawr oedd oherwydd doedd hi ddim yn eisiau colli aelod o staff - oherwydd dydy'r cwmni ddim yn fodlon ailosod unrhyw aelod o staff sy'n gadael ar hyn o frud.

Fel mae nhw'n dweud, "Watch this space!"

Diolch am y cefnogaeth!