Tudalen 1 o 1

Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Maw 2009 9:51 pm
gan Dai Bando
Helo pawb

Dwi heb fod 'ma am oesoedd, ond nawr rwyf angen tymed fach o help!
Wnes i gorffen ysgol 5 mlynedd yn ol, es i i coleg saesneg a flwyddyn hyn byddai'n gorffen prifysgol.
Yn Medi rwy'n dechrau PGCE ICT yn saesneg, ac yn gobeithio cael profiad gwaith mewn ysgolion cymraeg.

Mae fy iaith dal i fod yn eithau cryf, ond hefyd mae rhannau angen dadflino! Rwyn byw yn Abertawe, os unrhyw cursiau dros pythefnos, neu yr haf, sy'n addas am fy sefylliad? Neu unrhyw syniadau gan rhywyn i gwella'r iaith a fy hyder?

Diolch pawb, Jordan.

Re: Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 11:08 am
gan Duw
A oes modd i ti newid i wneud ICT trwy'r Gymraeg? Fel rhywun sy'n gweithio yn y sector Gymraeg, mae'r hol adnoddau gennym - ond duw a wyr o ble daethon nhw! Gallet gysylltu â CBAC/WJEC er mwyn dod o hyd at adnoddau Cymraeg.

I fod yn onest, y peth pwysicaf am PGCE yw sut i addysgu a sut i ymdrin â phlant - dyw'r iaith efallai ddim mor bwysig (caf fy saethu am hwn efallai).

Pan wnes i ddechre (gwneud gwyddoniaeth trwy Gyfrwng Gymraeg - Aberystwyth) cefais lyfryn termau - hanfodol a chwrs Gloywi Iaith gan rhyw hen fenyw (rhaid ei bod yn 90 ar y pryd!) oherwydd Cymraeg Carreg Calch oedd gennyf.

Dwi ddim yn gwybod am gyrsiau nos a fydd yn addysgu ICT trwy'r Gymraeg, ond yn sicr dylet fod yn gallu darganfod cyrsiau Gloywi Iaith. Dylai'r Brifysgol fod yn gallu cynnig rhain rhywle?

Mae'r sector Gymraeg pob amser yn edrych mas am dalent a dylet ystyried hwn fel opsiwn real. Paid â phoeni nid yw dy Gymraeg yn 'berffaith' i ddechrau, mae addysg llawn 'buzzwords', a bigid di'r rhain lan yn gyflym.

Pob lwc.

Re: Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Sul 15 Maw 2009 9:20 pm
gan Dai Bando
Diolch i ti dduw !

Re: Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Maw 17 Maw 2009 9:04 pm
gan Rhys
Mae'r canolfannau dysgu Cymraeg i Oedolion yn cynnal cyrsiau Gloywi ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf, an maen nhw hefyd yn cynnal Ysgolion Undydd ar benwythnosau ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Er mai nid dysgwr wyt ti, efallai byddai ti'n cael budd o fynychu Ysgol Undydd gyda'r grwp mwyaf rhugl. Fel un o ganolfanna Cymraeg i Oedolin Cymru mae Prifysgol Abertawe yn siwr o drefnu un yn fuan, ond yn erionig ddigon (neu fallai ddim) mae'r rhai mwya rheolaidd a'r rhai mwya poblogaidd yn cael eu cynnal gan Goleg Gwent draw yn Y Fenni.

Er nad oes gyda fi brofiad o wneud PGCE mewn unrhyw iaith, buaswn innau hefyd yn awgrymmu dy fod ti'n ystyried ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd (weithiau mae grantiau arbennig am wneud!!), dw i'n siwr bod nhw'n gefnogol iawn i rai sydd efallai'n teimlo ychydig yn 'rhydlyd'.

Re: Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 2:27 pm
gan Gwydion - CBAC
Duw a ddywedodd:A oes modd i ti newid i wneud ICT trwy'r Gymraeg? Fel rhywun sy'n gweithio yn y sector Gymraeg, mae'r hol adnoddau gennym - ond duw a wyr o ble daethon nhw! Gallet gysylltu â CBAC/WJEC er mwyn dod o hyd at adnoddau Cymraeg.

*Pesychiad*

Efallai ychydig yn hwyr, ond gallet ti edrych ar dudalen TGCH CBAC fel man cychwyn. Mae 'na gysylltiadau defnyddiol o fanna, gobeithio. Rho waedd os oes angen rhywbeth arall arnat ti!

Re: Dadflino'r Iaith!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Mai 2009 3:45 pm
gan Duw
Da nada Gwyd - dim ffi am d'hysbysebu!