Tudalen 1 o 1

cael gwared â jargon

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 11:36 am
gan sian
Hwn newydd ei gyhoeddi.
Gobeithio y gwneith e fywyd yn haws i gyfieithwyr - a phobl gyffredin, wrth gwrs.

Re: cael gwared â jargon

PostioPostiwyd: Mer 18 Maw 2009 12:06 pm
gan Duw
Gobeithio wir, mae jargon yn fy lladd. Yn anffodus, nid oes pob amser modd ei osgoi (er falle dwi'n son am dermau technegol yma). Y trafferth gyda llawer o hwn yw nid oes modd cyfieithu eu 'catchphrases' neu termau newydd mewn i rywbeth slic, dealladwy yn y Gymraeg. Yn aml, dwi wedi ffeindio fy hun yn ysgrifennu brawddeg ar gyfer 2 gair y Saesneg - gyda lle i osod 20 nod yn unig. Beth yw'r opsiwn arall? Cynhyrchu termau newydd eich hun? Bah!

A oes rhywle ar-lein sydd yn rhyw fath o gronfa ar gyfer termau newydd? Dwi'n defnyddio Kywiro ar gyfer pethach parthed meddalwedd - ond oes rhywbeth swyddogol mas 'na?