blwyddyn, blwydd, blynedd

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

blwyddyn, blwydd, blynedd

Postiogan Mr Gasyth » Sul 22 Maw 2009 7:39 pm

be ydi'r gwahaniaeth ystyr rhwng y geiriau yma?

hefyd, pa fath o air yn union ydi blynedd? o be fedrai feddwl tydi o mond yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr lluosog (h.y dwy flynedd, byth un mlynedd) ond nid ffurf luosog o blwydd mohono naci?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: blwyddyn, blwydd, blynedd

Postiogan sian » Sul 22 Maw 2009 8:09 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:be ydi'r gwahaniaeth ystyr rhwng y geiriau yma?

hefyd, pa fath o air yn union ydi blynedd? o be fedrai feddwl tydi o mond yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr lluosog (h.y dwy flynedd, byth un mlynedd) ond nid ffurf luosog o blwydd mohono naci?


Yr enw "arferol" yw blwyddyn.
"Mae blwyddyn yn amser hir"; "yn y flwyddyn 1345"

Ar ôl rhifau i sôn am oedran, blwydd:
"Blwydd oed yw Ifan" yw'r ffordd Gymreig o ddweud "Un oed yw Ifan"
Plentyn dyflwydd = Plentyn dwy oed
Ugain mlwydd oed = 20 oed
Plentyn chwe blwydd oed = Plentyn 6 oed

Ar ôl rhifau'n gyffredinol: blynedd.
Dair blynedd yn ôl welais i John ddiwethaf
Ymhen pedair blynedd fydda i'n gant oed
Bu'n gweithio yno am wyth mlynedd

Ffurfiau unigol yw "blwydd" a "blynedd" - unigol sy'n dod ar ôl rhifau yn Gymraeg fel yn "dau gi", "dwy gath".
Blwyddyn fyset ti'n ddweud fel arfer am "un flynedd" ond fyset ti'n dweud "un mlynedd ar hugain" neu "un mlynedd ar bymtheg"

Os wyt ti'n sôn am ddwy flwyddyn ar wahân, fyset ti'n dweud "dwy flwyddyn" yn hytrach na "dwy flynedd" - "Dwy flwyddyn ddrwg oedd 1932 a 1945"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: blwyddyn, blwydd, blynedd

Postiogan Mr Gasyth » Llun 23 Maw 2009 9:48 am

Diolch sian. Oes na esboniad am pam fod angen tri gair gwahanol am yr un peth ta?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: blwyddyn, blwydd, blynedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Maw 2009 10:15 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Diolch sian. Oes na esboniad am pam fod angen tri gair gwahanol am yr un peth ta?


Bach o sbort? Cadw ni ar flaenau'n traed? Sdim isie i bethe fod yn rhy rhwydd nawr os e! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron