Mr Gasyth a ddywedodd:be ydi'r gwahaniaeth ystyr rhwng y geiriau yma?
hefyd, pa fath o air yn union ydi blynedd? o be fedrai feddwl tydi o mond yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr lluosog (h.y dwy flynedd, byth un mlynedd) ond nid ffurf luosog o blwydd mohono naci?
Yr enw "arferol" yw
blwyddyn.
"Mae blwyddyn yn amser hir"; "yn y flwyddyn 1345"
Ar ôl rhifau i sôn am oedran,
blwydd:
"Blwydd oed yw Ifan" yw'r ffordd Gymreig o ddweud "Un oed yw Ifan"
Plentyn dyflwydd = Plentyn dwy oed
Ugain mlwydd oed = 20 oed
Plentyn chwe blwydd oed = Plentyn 6 oed
Ar ôl rhifau'n gyffredinol:
blynedd.
Dair blynedd yn ôl welais i John ddiwethaf
Ymhen pedair blynedd fydda i'n gant oed
Bu'n gweithio yno am wyth mlynedd
Ffurfiau unigol yw "blwydd" a "blynedd" - unigol sy'n dod ar ôl rhifau yn Gymraeg fel yn "dau gi", "dwy gath".
Blwyddyn fyset ti'n ddweud fel arfer am "un flynedd" ond fyset ti'n dweud "un mlynedd ar hugain" neu "un mlynedd ar bymtheg"
Os wyt ti'n sôn am ddwy flwyddyn ar wahân, fyset ti'n dweud "dwy flwyddyn" yn hytrach na "dwy flynedd" - "Dwy flwyddyn ddrwg oedd 1932 a 1945"