gan sian » Gwe 27 Maw 2009 9:00 am
randibŵ, sioe, sbloet, swae yn ôl y Briws.
I mi, mae randibŵ yn golygu commotion e.e. athro'n mynd i mewn at ddosbarth o blant yn gwneud sŵn - "Beth yw'r randibŵ 'ma?"
Gall razzmatazz fod yn randibŵ ond mae randibŵ'n golygu pethau eraill hefyd. Newydd ffeindio bod randibŵ yn dod o rendezvous
Mae mynd am swae yn cael ei ddefnyddio ffor' hyn fel rhyw fath o mynd i waco
Swn i'n gorfod dewis o'r rhestr yna, swn i'n defnyddio "sbloet".