Tudalen 1 o 1

criminal record

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 7:31 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi'n methu'n glir a dod o hyd i hwn yn bruce. o'sa rywun fedar 'y ngoleuo i?!

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 8:35 pm
gan sian
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:dwi'n methu'n glir a dod o hyd i hwn yn bruce. o'sa rywun fedar 'y ngoleuo i?!


Rhyfedd! Yn Geiriadur Newydd y Gyfraith mae Robyn Lewys yn rhoi "hanes troseddu" a "hanes o droseddu" gyda "estynnwch eu hanesion troseddu" am "fetch their criminal records".
Mae'n rhoi "cofnod troseddau" am "police record"

I mi, dydi "mae 'da fe hanes o droseddu" ddim yn golygu run peth â "he's got a criminal record".

Sgwn i beth sy'n bod â "record droseddol" ?

Dw i'n meddwl bod gen i eiriadur cyfreithiol arall, mwy newydd, ond alla i ddim rhoi'n llaw arno.

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 7:55 am
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:dwi'n methu'n glir a dod o hyd i hwn yn bruce. o'sa rywun fedar 'y ngoleuo i?!


Rhyfedd! Yn Geiriadur Newydd y Gyfraith mae Robyn Lewys yn rhoi "hanes troseddu" a "hanes o droseddu" gyda "estynnwch eu hanesion troseddu" am "fetch their criminal records".
Mae'n rhoi "cofnod troseddau" am "police record"

I mi, dydi "mae 'da fe hanes o droseddu" ddim yn golygu run peth â "he's got a criminal record".

Sgwn i beth sy'n bod â "record droseddol" ?

Dw i'n meddwl bod gen i eiriadur cyfreithiol arall, mwy newydd, ond alla i ddim rhoi'n llaw arno.

Hwnna bydde'n i'n dewis. Ond dwi ddim yn cyfiethu lot ond am TGAU Cemeg!

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 7:57 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n meddwl bod y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ffafrio 'cofnod troseddol'

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 8:27 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
diolch i chi. chwilio am rwbath eitha' llafar, gogleddol, ydw i deud gwir. 'neith "record" ta, am wn i. diolch yn fawr x

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:08 pm
gan Seonaidh/Sioni
Beth am "Love Letters in the Sand" gan Ken Dodd, neu "White Christmas" gan Bing Crosby? Wnaiff hwnna'r tro am "criminal record"?

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:18 pm
gan Ray Diota
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Beth am "Love Letters in the Sand" gan Ken Dodd, neu "White Christmas" gan Bing Crosby? Wnaiff hwnna'r tro am "criminal record"?


Delwedd

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 10:11 pm
gan Duw
Cofnod troseddau bydden i wedi meddwl.

Re: criminal record

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:43 am
gan adamjones416
Baswn i'n dweud "Cofnod o droseddau" Mae'n swno'n lot well na Hanes troseddu ayyb.