Tudalen 2 o 2

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 1:05 am
gan Chickenfoot
Yn amwg, mae gan yr arholwr slodyn ar ei ysgwydd...ypsetio plant mewn arholiad, eh? Stay classy! :crechwen: :?

'Swn i'n anghofio am y peth am rwan, neu ymgynghori hefo'r athrawes. Pobl lwc i dy fab, beth bynnag a gobeithio bod y dyn 'ma ddim wedi sbwylio
'r hwyl mae'n cael o chwarae offeren.

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 8:17 am
gan dil
cwyno yn gofyn am ymddiheuro a gyru copi ir wasg ac i dy mp lleol a bwrdd yr iaith, cymdeithas yr iaith, a rwyn arall tin gallu meddwl yn lleol sydd a wbeth i neud ar gymraeg. bydda yn ofalus or wasg a mi elli di reolir syt a faint tisior lleill ymateb.

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 2:42 pm
gan Duw
dwi ddim yn meddwl af yn gyhoeddus 'da hwn, wedi'r cyfan, rhywbeth personol ydyw ac nid wyf am ypsetio'r mab bellach. Llythyr ar ei ffordd i'r bwrdd. DIolch o'r galon am y cefnogaeth ac awgrymiadau pawb. Trueni ein bod ni'n byw mewn oesoedd mor PC - hoffwn chwilio am y boi a chael 2 funud mewn stafell fechan 'da fe.

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 05 Ebr 2009 3:31 pm
gan Ray Diota
Duw a ddywedodd:dwi ddim yn meddwl af yn gyhoeddus 'da hwn, wedi'r cyfan, rhywbeth personol ydyw ac nid wyf am ypsetio'r mab bellach. Llythyr ar ei ffordd i'r bwrdd. DIolch o'r galon am y cefnogaeth ac awgrymiadau pawb. Trueni ein bod ni'n byw mewn oesoedd mor PC - hoffwn chwilio am y boi a chael 2 funud mewn stafell fechan 'da fe.


gobitho bod e'n lythyr digon crac 'da ti... fydden i ddim yn dal nol trwy bryder am ganlyniad dy fab, ma dowt 'da fi fydden nhw'n gadel iddo fe ddylanwadu ar y canlyniad...

fel lot ohonon ni, nes i'r egsams hyn, parctical a theori, a dwi'n rhyw gofio bod yr holl beth yn seisnig ofnadw... oes posib neud egsams o'r fath drwy'r Gymraeg? ma dowt da fi...

pob lwc i'r boi bach ta beth!

Re: Fy mab ifanc yn derbyn stwr am siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 2:17 pm
gan finch*
Ray Diota a ddywedodd:gobitho bod e'n lythyr digon crac 'da ti... fydden i ddim yn dal nol trwy bryder am ganlyniad dy fab, ma dowt 'da fi fydden nhw'n gadel iddo fe ddylanwadu ar y canlyniad...

fel lot ohonon ni, nes i'r egsams hyn, parctical a theori, a dwi'n rhyw gofio bod yr holl beth yn seisnig ofnadw... oes posib neud egsams o'r fath drwy'r Gymraeg? ma dowt da fi...


Dwi'n cofio eu bod nhw'n hynod o Seisnig hefyd gyda rhyw foi rownd ei hanner cant mewn sports jacket a bow tie yn arholi fel se fe ar ei ffordd i weld sesiwn y prynhawn yn Lords. Ma'r mwyafrif o'r byrdde yn ganolog yn Llundain dwi'n credu felly dwi'n cymryd byse'n rhaid cael bwrdd a'i bencadlys yng Nghymru i gael unrhyw ddarpariaeth Gymraeg Swyddogol. Cwyna nerth esgyrn dy ysgrifbin/allweddell.

Chickenfoot a ddywedodd:gobeithio bod y dyn 'ma ddim wedi sbwylio
'r hwyl mae'n cael o chwarae offeren.


A gafodd unrhywun hwyl yn chwarae offeren ysgwn i?

Pob Lwc