Tudalen 1 o 1

"Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 10:33 am
gan Hazel
Oes 'na unrhywun sy'n defnydd y gair "gwely" am "family"? Ar dydalen 262 yn YGM, dan "gwely", "family" yw diffiniad nifer un a "bed" yw diffiniad nifer ddwy. Nid wyf i feddwl
fy mod i'n ei clywed o fel "family" erioed.

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 10:52 am
gan sian
Na, doeddwn i ddim wedi'i glywed chwaith.

Ond yn GPC o dan "gwely" - gweler rhif 3:
1a. Dodrefnyn neu gelficyn llofft a ddefnyddir i gysgu neu i orffwys ynddo .....
1b. Yn ffigurol, "y bedd"
1c. Yn drosiadol, Man uniad priodasol, caru, cydorwedd, gordderchu etc; breintiau a dyletswyddau'r ystad briodasol; man cenhedlu ac esgor.
2a. Darn o dir mewn gardd.... er mwyn tyfu llysiau neu flodau ...
2b. Sianel neu redle neu waelod afon; tir ... dan ddyfroedd
2c. Sail .... ddiogel i rywbeth orffwys arni e.e. haen o forter ... e.e mewn gwasg argraffu
2d. Haen ... o gerrig ... mewn wal; haen o graig ...; ... haen o gregynbysgod ...; ... darn o bîff
3. Uned neu gylch o berthnasau yn dal tir, gwehelyth, teulu, tylwyth, disgynyddion; tir a ddelid yn gyd-eiddo gan genedl gyfan neu ran ohoni ...

Pwy fyse'n meddwl? :D

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 4:09 pm
gan Duw
Ydy'r gwely yn y cyd-destun 'ma'n meddwl fath o 'breeding ground', e.e. gwely ffrwythlon?

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 4:49 pm
gan Hazel
Nac ydy, dw i ddim yn meddwl. Ysgrifennodd bonhedig gan enw Trefor Griffiths limerig. Mae'r llinell gyntaf yw: "Os tlawd yw dy garet a'th wely rhacs....". Gallai hynny bod naill ai "bed" neu "family" yn ôl YGM. Rydw i'n meddwl bod y gair "family" yn well.

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 5:25 pm
gan sian
Hazel a ddywedodd: "Os tlawd yw dy garet a'th wely rhacs....".


Mae'n fwy tebygol o olygu gwely fan hyn - Rhyw fath o attic yw "garet". Mae'n siwr mai gwely wedi'i wneud o racs - "rags" - yw "gwely rhacs" - run peth â "mat rhacs" - neu gallai feddwl "your threadbare/tattered bed"

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sad 18 Ebr 2009 5:54 pm
gan Hazel
Mae'n posibl, ydy. Dim ond gwneud darganfyddiad a dw i'n credu y gallai "family in rags" neu "family in tatters" yn ffitio hefyd. Beth ydych chi'n meddwl? Byddai hi'n neis pe buasai Trefor Griffiths yma er mwyn ein dweud wrthon ni.

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 12:41 am
gan sian
Beth yw'r llinell nesaf?

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 12:53 pm
gan Mr Gasyth
1c. Yn drosiadol, Man uniad priodasol, caru, cydorwedd, gordderchu etc; breintiau a dyletswyddau'r ystad briodasol; man cenhedlu ac esgor.


Roedd Bruce reit benderfynol o beidio dfenyddio'r gair 'rhyw' doedd. Rioed di meddwl amdano fel 'braint a dyletswydd' o'r blaen rhaid deud :D

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 1:14 pm
gan dawncyfarwydd
Cysylltiad â'r gair 'gwehelyth' ma'n debyg?

Re: "Gwely"

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 1:21 pm
gan Hazel
sian a ddywedodd:Beth yw'r llinell nesaf?



Dydy hi ddim yn bosibl i mi ei phost hi i gyd. Rheolau hawlfraint, yr ydych chi'n gwybod. Oes gennych chi "Limrigau" - Pigion 2000? Os felly, gwelwch dudalen 48. Os nad, allaf i'n ei PM hi os ydy eisiau.