helo eto. cael traffarth meddwl am air deheuol am "cyset".(ma 'na do bach ar yr e i fod, ma'n siwr, ond dwi'm yn gwbod sut i roi un)
i'r rhai ohonoch sy ddim yn gyfarwydd, "paid a bod yn gyset" ydi pan ma' rhywun yn gwrthod cacan arall, neu banad arall, neu unrhywbeth deud gwir, yn nhy rhywun arall, ac ma'r person sy'n byw yna'n 'u hannog nhw i gymryd. hynny ydi, pan ma' rhywun yn trio peidio bod yn rwd neu ymddangos yn farus. oes 'na ffasiwn beth yn y de? neu yda chi jyst yn buta a chymryd heb ots yn y byd...?!