Tudalen 1 o 2

cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 11:10 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
helo eto. cael traffarth meddwl am air deheuol am "cyset".(ma 'na do bach ar yr e i fod, ma'n siwr, ond dwi'm yn gwbod sut i roi un)
i'r rhai ohonoch sy ddim yn gyfarwydd, "paid a bod yn gyset" ydi pan ma' rhywun yn gwrthod cacan arall, neu banad arall, neu unrhywbeth deud gwir, yn nhy rhywun arall, ac ma'r person sy'n byw yna'n 'u hannog nhw i gymryd. hynny ydi, pan ma' rhywun yn trio peidio bod yn rwd neu ymddangos yn farus. oes 'na ffasiwn beth yn y de? neu yda chi jyst yn buta a chymryd heb ots yn y byd...?!

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 11:23 am
gan sian
Hmm! Rhyw feddwl mai "So ti'n shei?" fysen ni'n ddweud.

Yn ôl GPC, mae cysêt neu cynsêt yn golygu mursendod, hunan-dyb, opiniwn coeg neu fympwy sy'n peri ymddygiad annaturiol; swildod mympwyol - sef "affected or conceited shyness" - sy ddim cweit yr un peth. Mae'n dod o'r Saesneg conceit, gyda llaw

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 11:34 am
gan Ray Diota
dere, paid â bod yn shei...

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 1:13 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
jyst y boi! diolch o galon! x

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 1:24 pm
gan Doctor Sanchez
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:helo eto. cael traffarth meddwl am air deheuol am "cyset".(ma 'na do bach ar yr e i fod, ma'n siwr, ond dwi'm yn gwbod sut i roi un)
i'r rhai ohonoch sy ddim yn gyfarwydd, "paid a bod yn gyset" ydi pan ma' rhywun yn gwrthod cacan arall, neu banad arall, neu unrhywbeth deud gwir, yn nhy rhywun arall, ac ma'r person sy'n byw yna'n 'u hannog nhw i gymryd. hynny ydi, pan ma' rhywun yn trio peidio bod yn rwd neu ymddangos yn farus. oes 'na ffasiwn beth yn y de? neu yda chi jyst yn buta a chymryd heb ots yn y byd...?!


Lle ma nhw'n deud cyset yn y Gogledd? Mond cysetlyd dwi rioed di glywad

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 1:28 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
gnarfon, ia. y gogledd.

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 1:35 pm
gan Doctor Sanchez
Wel ai nefar! Dwi'n dysgu rwbath newydd bob dydd

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 1:50 pm
gan sian
Doctor Sanchez a ddywedodd:Wel ai nefar! Dwi'n dysgu rwbath newydd bob dydd


Fi hefyd (ond do'n i ddim yn licio dweud) :wps: .

Dw i wedi clywed "Paid â bod yn gysetlyd" a "Mae 'na hen gysêt arno fo" ond dim "Paid â bod yn gysêt"

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 3:20 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
sgin i'm mynadd dechra edefyn arall... be' am regi ta? osa air bach mwy diniwad am "o shit" fatha "o diar" yn y gogledd? jolch.x

Re: cyset

PostioPostiwyd: Maw 21 Ebr 2009 3:25 pm
gan Kez
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:sgin i'm mynadd dechra edefyn arall... be' am regi ta? osa air bach mwy diniwad am "o shit" fatha "o diar" yn y gogledd? jolch.x


'Shwgir'