Cymedrolwr: Gwen
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi wedi clywed dau fersiwn Gymraeg ar gyfer Grangetown sef Trefynach a Trelluest. Yn ol y Wikipedia Cymraeg, Trelluest yw'r enw - http://cy.wikipedia.org/wiki/Trelluest - ond mae fy chwaer yn byw yno ac yn dweud mai Trefynach yw'r enw am y lle
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r Athro John Davies, sy'n byw yn yr ardal, yn defnyddio 'Grangetown' achos dydi'r enw Cymraeg heb ei dderbyn yn ôl y sôn, medda fo - nid ei fod o'n awdurdod ar bopeth dan haul! Mae 'na enghreifftiau o'r ddau enw i'w cael ar-lein hefyd. Gan ddweud hynny, mae 'na rhywbeth yng nghefn fy meddwl i yn dweud mai 'Grangetown' ydi'r enw gwreiddiol ar yr ardal beth bynnag.
Mr Gasyth a ddywedodd:Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'r Athro John Davies, sy'n byw yn yr ardal, yn defnyddio 'Grangetown' achos dydi'r enw Cymraeg heb ei dderbyn yn ôl y sôn, medda fo - nid ei fod o'n awdurdod ar bopeth dan haul! Mae 'na enghreifftiau o'r ddau enw i'w cael ar-lein hefyd. Gan ddweud hynny, mae 'na rhywbeth yng nghefn fy meddwl i yn dweud mai 'Grangetown' ydi'r enw gwreiddiol ar yr ardal beth bynnag.
Meddwl ei fod wedi ei enw ar ol fferm y Grange, os dwi'n cofio'n iawn. Dwinne'm yn cin ar y busnes o roi enwau Cymraeg ffals ar lefydd chwaith. 'Y Rhath' ydi'r enghraifft waetha.
Ray Diota a ddywedodd:Ma fy nghyn fos, Owen john thomas, yn dweud Y Grange Mawr am Grangetown os wy'n cofio'n iawn, a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am Gaerdydd na fe!
ceribethlem a ddywedodd:Ray Diota a ddywedodd:Ma fy nghyn fos, Owen john thomas, yn dweud Y Grange Mawr am Grangetown os wy'n cofio'n iawn, a chewch chi neb sy'n gwbod mwy am Gaerdydd na fe!
Beth am Frank Henessy?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai