Mae Grangetown yn dod o enw "Grange Farm" - adeilad sy' dal yno ar Clive Street (lawr o Penarth Road am y Bae). Mae'r ty ffarm dal yna ynghanol y tai teras ar Clive Street
ac yn werth ei weld (linc i Google Street View). Mae na fap fyny yn nhafarn y Robin Hood ym Mhontcanna o'r ardal yn 1869 - a dim ond y ffarm sydd i'w weld, a chaeau o'i chwmpas. Daeth Clive Street yn 1889 dwi'n credu (mae yna ddyddiad ar y tai) ac yna gweddill Grangetown wrth i'r docwyr fod angen mwy o gartrefi.
Swni'n amau'n gryf nad oedd enw Cymreig ar y lle, gan nad oedd 'tref' yna tan i'r mewnlifiad iaith susneg i'r dociau gyrraedd.
(wps - gasyth wedi adteb cynna'i!)