newydd mynd /newydd fynd

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

newydd mynd /newydd fynd

Postiogan mab afradlon » Sul 10 Mai 2009 12:59 pm

Oes na dreugliad ar ol y gair newydd (yn ystyr rhywbeth sy newydd ddigwydd)? Ambell waith ma fen swnion iawn, ond weithiau erill...

A thra mod i wrthi - os treugliad ar ol "co", (sef dyma chi bobl swanc) Hynny yw - "co pensil i ti" neu "co bensil i ti"
mab afradlon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:17 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan sian » Sul 10 Mai 2009 1:36 pm

mab afradlon a ddywedodd:Oes na dreugliad ar ol y gair newydd (yn ystyr rhywbeth sy newydd ddigwydd)? Ambell waith ma fen swnion iawn, ond weithiau erill...



Oes - Dwi newydd ddweud wrthat ti am gau'r drws.

mab afradlon a ddywedodd:A thra mod i wrthi - os treiglad ar ol "co", (sef dyma chi bobl swanc) Hynny yw - "co pensil i ti" neu "co bensil i ti"


Oes - meddwl bod e'n dod o "dacw" sy'n dod o "weli di acw"; ac mae " 'ma bensil i ti" yn dod o "dyma" sy'n dod o "weli di yma bensil i ti". Felly mae'n wrthrych y ferf "gweld" fel yn "Gwelodd John farcud"


"Dacw dŷ a dacw sgubor
Dacw ddrws y beudy'n agor"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan Duw » Sul 10 Mai 2009 5:02 pm

Dwi'n meddwl o dacw hefyd. Cyd-ddigwyddiad falle bo Eidalwyr yn dweud 'Ecco' am 'Co' hefyd (fel 'Behold'). Oes cysylltiad?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan Kez » Sul 10 Mai 2009 6:39 pm

Duw a ddywedodd:Dwi'n meddwl o dacw hefyd. Cyd-ddigwyddiad falle bo Eidalwyr yn dweud 'Ecco' am 'Co' hefyd (fel 'Behold'). Oes cysylltiad?


Nag oes, mae'r etymoleg yn wahanol. Mae dacw/dyco yn dalfyriad o'r frawddeg weli di acw/'co, sef berf + adferf.

Mae 'Ecco' yn Eidaleg yn tarddu o'r ebychiad Ecce! (Wele!) mewn Lladin Clasurol ac nid o ffurf ferfol.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan Duw » Sul 10 Mai 2009 9:09 pm

Kez a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Dwi'n meddwl o dacw hefyd. Cyd-ddigwyddiad falle bo Eidalwyr yn dweud 'Ecco' am 'Co' hefyd (fel 'Behold'). Oes cysylltiad?


Nag oes, mae'r etymoleg yn wahanol. Mae dacw/dyco yn dalfyriad o'r frawddeg weli di acw/'co, sef berf + adferf.

Mae 'Ecco' yn Eidaleg yn tarddu o'r ebychiad Ecce! (Wele!) mewn Lladin Clasurol ac nid o ffurf ferfol.


Diolch Kez. Wel, cyd-ddigwyddiad 'te.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 11 Mai 2009 5:49 pm

Ond...os mai o "ecce" = "wele" y tardd "ecco", ac os mai o "Gweli di acw" y tardd "dacw"/"co", ymddengys fod yr un syniad tu ol iddyn nhw...cyd-ddigwyddiad?

O ay, mae "newydd" definitely yn peri treiglad meddal.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: newydd mynd /newydd fynd

Postiogan Kez » Llun 11 Mai 2009 11:24 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Ond...os mai o "ecce" = "wele" y tardd "ecco", ac os mai o "Gweli di acw" y tardd "dacw"/"co", ymddengys fod yr un syniad tu ol iddyn nhw...cyd-ddigwyddiad?


Ie, cyd -ddigwyddiad yw hi. Mae ecco a sawl ystyr yn perthyn iddi sy'n seiliedig ar ecce = wele, fel yma, acw, dyma, dyna a dacw.

Fe gei di lot o bethau tebyg mewn ieithoedd gwahanol. Ma'r Ffrancod yn gweud s'il vous plait sy'n reit debyg i'r Gymraeg os gwelwch yn dda tra bo'r Eidalwyr a'r Sbaenwyr yn gweud grazie/gracias; ond cyd-ddigwyddiad yw bod y Gymraeg a'r Ffrangeg yn debyg yn hynny o beth am wn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron