Tudalen 1 o 1

Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:36 am
gan sian
Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?

brênwêf
holidês
aiscrîm

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:42 am
gan Mr Gasyth
sian a ddywedodd:Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?

brênwêf
holidês
aiscrîm


esoniad posic yn achos dau o'r tri ydi eu bod nhw'n cael eu trim fel dau air. mae selo-tep a kit-kat yn enghreifftiau eraill.

gyda llaw diw'n deud 'nhw' achos tueddiad ym Mhen Llyn yn unig ydw hwn o'm mhrofiad ydi a nid y gogledd yn gyffredinol.

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:44 am
gan Orcloth
Ella am ein bod yn mwy parod i agor ein cega? (Ym mhob ffordd!!!) :D

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:57 am
gan Cilan
Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?


Digon gwir, ond 'dwi'n cofio clywed son am ddynas o Eifionydd oedd yn galw'r hen Fwrdd Marchnata Llaeth yn 'milc marceting' Mae (roedd?) pobol Eifionydd yn amlwg yn gwybod lle i roi'r pwyslais.

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 12:15 pm
gan Hogyn o Rachub
Mr Gasyth a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?

brênwêf
holidês
aiscrîm


esoniad posic yn achos dau o'r tri ydi eu bod nhw'n cael eu trim fel dau air. mae selo-tep a kit-kat yn enghreifftiau eraill.

gyda llaw diw'n deud 'nhw' achos tueddiad ym Mhen Llyn yn unig ydw hwn o'm mhrofiad ydi a nid y gogledd yn gyffredinol.


Dwi'n amau mai tueddiad ochrau Llyn ydi o hefyd - fyddwn i'n dueddol o ddeud brênwef neu holídes ac nid y ddwy enghraifft arall - er fyswn i'n dadlau nad ydi pobl yn dweud 'aiscrîm' fel un gair yn y lle cynta (ond fy mhrofiad i hynny hwnnw).

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 3:08 pm
gan Ray Diota
Mr Gasyth a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?

brênwêf
holidês
aiscrîm


esoniad posib yn achos dau o'r tri ydi eu bod nhw'n cael eu trim fel dau air.


ma hynna'n gwitho 'da'r tri 'chan. weden i bo ti di taro'r hoelen ar 'i phen!

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 3:28 pm
gan Mr Gasyth
Ray Diota a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Sgwn i pam mae gogleddwyr yn tueddu i roi'r acen ar y sillaf olaf mewn geiriau benthyg yn lle ar y sillaf olaf ond un fel sy'n naturiol yn y Gymraeg?

brênwêf
holidês
aiscrîm


esoniad posib yn achos dau o'r tri ydi eu bod nhw'n cael eu trim fel dau air.


ma hynna'n gwitho 'da'r tri 'chan. weden i bo ti di taro'r hoelen ar 'i phen!


Ti'n iawn hefyd - nes i'm meddwl am darddiad holi(y)days!

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 4:23 pm
gan Duw
Beth am siarad trwy'u trwyne? :ffeit: Wel, well na siarad trwy'u penole sbo.

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 4:55 pm
gan Orcloth
Siarad trwy'n trwynau? Ni Ogleddwyr? O leia mae'r ffordd da ni'n siarad yn haws i'w ddallt! Sbo, wir! Be mae hynna'n feddwl? :rolio: :winc:

Re: Gogleddwyr yn mynd yn erbyn tuedd naturiol yr iaith

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 5:48 pm
gan osian
Dwi'n cofio un o'n ffrindia i yn son am lyfr o'r enw Across the Barricades, ac yn deud Across the Bariceds. Na'th pawb chwerthin, yn rhannol dwi meddwl am fod rhoi'r pwyslais ar y sillaf ola' yn swnio - ac yn sicr yn cael ei weld - yn reit henffashwn.