Tudalen 1 o 1

Pa ei/eu i'w ddefnyddio gyda'r term "pob rhywbeth"

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 3:46 pm
gan Duw
Dwi'n cyfieithu rhaglen WordPress ar hyn o bryd ac yn ansicr o'r ffurf gywir o ei/eu i'w defnyddio gyda brawddeg yn debyg i hon:

P'un fydde'n gywir?

Cafodd pob post ei ychwanegu i'r categori hwn

Cafodd pob post eu hychwanegu i'r categori hwn


Bydden wedi dweud 'eu', e.e. 'cafodd pob un o nhw eu lladd'

Er, a oes gwahaniaeth cynnil yma?

Re: Pa ei/eu i'w ddefnyddio gyda'r term "pob rhywbeth"

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 4:18 pm
gan sian
Yn ôl y Golygiadur, unigol yw "pob un" - "Yr oedd pob un yn ei weld ei hunan yn arwr"

Ydi hynna'n helpu?

Re: Pa ei/eu i'w ddefnyddio gyda'r term "pob rhywbeth"

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 9:34 pm
gan Duw
Ydy diolch o'r galon Sian - ro'n i'n methu â chael fy mhen rownd y peth. Roedd y lluosog yn jest teimlo'n rong, ond achos roedd 'pob un o nhw' yn awgrymu lluosog (llawer o bobl), ces i rial ben tost.

Re: Pa ei/eu i'w ddefnyddio gyda'r term "pob rhywbeth"

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 10:16 pm
gan Hedd Gwynfor
Hei Duw, pa fersiwn o Wordpress wyt ti'n ei gyfieithu? Dwi'n gwybod fod Rhoslyn Prys wedi cyfieithu fersiwn 2.7 ar gael yma - http://www.meddal.com/cyfieithu/wordpre ... ymraeg.zip

Re: Pa ei/eu i'w ddefnyddio gyda'r term "pob rhywbeth"

PostioPostiwyd: Llun 18 Mai 2009 10:38 pm
gan Duw
Ie, dwi jest wedi darganfod y newydd drwg gan Rhys. O byger!

I fod yn onest, dwi wedi newydd lawrlwytho'r ffeil ac mae gwahaniaethau sylweddol rhwng ei gyfieithiad ef a minnau. Gweld fy mod rhyw 60%+ lawr y llwybr, gwnaf barhau a phostio'r ffeil iaith ar wetwork. Yn anffodus, nid oedd Rhoslyn wedi amlygu'r ffaith taw fersiwn 2.7 ydoedd ar meddal.com ac nid yw wedi anfon y ffeil i WordPress er mwyn iddynt ei osod ar y safle swyddogol.

Mae post yn dangos fy nghynnydd yma.