Tudalen 1 o 1

Yr hen goes

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 2:21 pm
gan Hogyn o Rachub
Smai bawb. Oes rhywun yn gwybod lle mae'r dywediad (gwych) yma'n dod o? Fydda i'n licio dweud "yr hen goes" i bobl ac yn licio'i glywed, ond oes rhywun yn gwybod o le mae'n tarddu?

Re: Yr hen goes

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 3:26 pm
gan Mali
O ryw bentra bach yng Ngogledd Orllewin Cymru siwr o fod..... :winc: Ac yn ddywediad y dylid ei ddefnyddio ar gyfer rhywun ti'n nabod yn dda iawn !

Re: Yr hen goes

PostioPostiwyd: Maw 19 Mai 2009 3:35 pm
gan Ray Diota
Mali a ddywedodd:O ryw bentra bach yng Ngogledd Orllewin Cymru siwr o fod..... :winc: Ac yn ddywediad y dylid ei ddefnyddio ar gyfer rhywun ti'n nabod yn dda iawn !


peidiwch chi gogs dwyn y dywediad 'ma... bownd mai ni bois ceredigion ddechreuodd e...

*aros i sian ateb ein cwestiwn ni*