Tudalen 1 o 1

'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 8:55 am
gan Wilfred
Ma na griw yn Sir Benfro sydd wedi gneud gwaith ar ddramau byrion a perffromio nhw mewn tafarndai ac yn y blaen. Ma na griw wan sydd eisiau gneud yr un peth yn y Gymraeg ag eisiau cyfieithu 'Pint-sized Plays'. Unrhyw awgrymiadau? Diolch.

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 9:12 am
gan sian
Oes rhywbeth allet ti neud â "byr" a "bar"? Rhywbeth gwell na "Dramâu byr yn y bar"

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 11:54 am
gan Wilfred
Ia wbath fel yna sydd i angen. Ma'n anodd meddwl am wbath bachog. :?

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 12:00 pm
gan Ray Diota
Wilfred a ddywedodd:Ia wbath fel yna sydd i angen. Ma'n anodd meddwl am wbath bachog. :?


Dracht a Drama!

Drama yn y Dafarn... na, shit

yyyym

Ma un Sian yn lot gwell, gweud gwir... a'i nol nghot...

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 12:33 pm
gan ceribethlem
Diod Dramatig

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 12:34 pm
gan Mr Gasyth
Dwi'n licio Drama'n y Dafarn

Ai gair cymraeg ta saesneg ydi 'dram' fel 'dram o wisgi'? Os Cymraeg, yna be am 'Dram o Ddrama'?

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 1:09 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n licio Drama'n y Dafarn


Ie - Ray'n dipyn o arbenigwr ar ddrama mewn tafarndai

Mae'r Saesneg yn llwyddo i gael y tair elfen mewn dau air - byr, tafarn a drama. Mae hynny'n dipyn o gamp

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Mer 20 Mai 2009 1:42 pm
gan Wilfred
sian a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n licio Drama'n y Dafarn


Ie - Ray'n dipyn o arbenigwr ar ddrama mewn tafarndai

Mae'r Saesneg yn llwyddo i gael y tair elfen mewn dau air - byr, tafarn a drama. Mae hynny'n dipyn o gamp


Yn union Sian. Yr elefn 'byr' sydd yn anodd i gael i fewn i'r un Cymraeg dwi'n meddwl.

Re: 'Pint-sized Plays'

PostioPostiwyd: Iau 21 Mai 2009 7:37 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ti wedi clywed am "Trafferth mewn Tafarn" (D ap G), heb os. Beth am "Trafod mewn Tafarn"?