Shwt mae pawb?
Dwi'n newydd i'r fforwm - so helo pawb!
Dwi wedi cael i codi lan i siarad Cymraeg- ond (a fi'n gwybod bod hyn yn swnio'n wael) ma gas gyda fi i ysgrifennu yn Gymraeg ! A mae gas gweld treigladau a syllafi fi .. i chi bown a fod wedi gweld sawl camgymeriad yn barod! Ond hey ho.. efallai un dydd..... hmmm...
Anyway, o'n in meddwl os fyddai un dryw un yn fodlon helpu fi mas wrth edrych drosto'r bwydlen isod. Dwi'n priodi yn mis Awst, a fi'n ganol geirio bwydlen plant sy'n mynd i fynd mewn gyda'r gwahoddiadau (dwi wedi neud yr un Oedolion yn barod). Dyma beth i fi wedi rhoi lawr:
Bwydlen a’r gyfer plant
Prif Gyrsiau
Pryd bychan o’r prif gyrsiau
Nuggets Cyw Iâr / Fish Fingers / Selsig gyda dewis o sglodion neu thatws stwnsh a baked beans neu pys.
Pwdinau
Pryd bychan o’r prif bwdinau
Hufen Ia Fanila gyda Jeli Mefus
Odi'r treigladau yn iawn? Oes yna cyfieithiad am 'Fish Fingers' a 'Nuggets' yn Cymraeg? Ac odi 'Pryd bychan o’r prif gyrsiau' yn swnio'n iawn? Neu allwch chi awgrymu sut ddylen i geirio'r bwydlen?
Fydden i'n ofnadwy o ddiolchgar am un dryw cymorth !
Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn.
D xx