Tudalen 1 o 1

Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 4:14 pm
gan Awen92
Yn y prosbectws Prifysgol Caerdydd Saesneg, mae ffurflen bach ble mae pobl yn gallu ei lenwi ac yn gofyn am amrywiaith mawr o bethe arall gan Caerdydd.

Felly, mis yn ol, fe nes i ofyn am ddau bethe-
1- Prosbectws Prifysgol Caerdydd yn Gymraeg,
2- Taflen Ysgol Gwyddoniaeth Biologol (yn Saesneg)

Dwy wythnos yn ol, derbynais i rwybeth trwy'r post o Gaerdydd, ond dim ond prosbectus Saesneg arall oedd e!!
Felly, nes i lenwi'r ffurflen arall, yn gofyn am yr un dau bethe.

Heddi, derbynais i rywbeth arall o Gaerdydd - brosbectus arall Saesneg, a taflen Ysgol y Gymraeg! Ond dim prosbectws Cymraeg, neu taflen Gwyddoniaeth Biologol- dim beth mod i wedi gofyn am!!

Sut gallen nhw cymysgu gymaint!!
Felly, bydd rhaid i fi lenwi ffurflen yn gofyn amdanan nhw, am y drydedd dro!
:rolio: