Tudalen 1 o 1

Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 4:15 pm
gan Awen92
Yn y prosbectws Prifysgol Caerdydd Saesneg, mae ffurflen bach ble mae pobl yn gallu ei lenwi ac yn gofyn am amrywiaith mawr o bethe arall gan Caerdydd.

Felly, mis yn ol, fe nes i ofyn am ddau bethe-
1- Prosbectws Prifysgol Caerdydd yn Gymraeg,
2- Taflen Ysgol Gwyddoniaeth Biologol (yn Saesneg)

Dwy wythnos yn ol, derbynais i rwybeth trwy'r post o Gaerdydd, ond dim ond prosbectus Saesneg arall oedd e!!
Felly, nes i lenwi'r ffurflen arall, yn gofyn am yr un dau bethe.

Heddi, derbynais i rywbeth arall o Gaerdydd - brosbectus arall Saesneg, a taflen Ysgol y Gymraeg! Ond dim prosbectws Cymraeg, neu taflen Gwyddoniaeth Biologol- dim beth mod i wedi gofyn am!!

Sut gallen nhw cymysgu gymaint!!
Felly, bydd rhaid i fi lenwi ffurflen yn gofyn amdanan nhw, am y drydedd dro!
:rolio:

Re: Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 10:59 pm
gan Seonaidh/Sioni
Beth am symud hyn i "Dyfodol yr Iaith"?

Re: Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Iau 11 Meh 2009 9:30 am
gan Sioni Size
Ma'r diffyg parch sydd gan Brifysgol Caerdydd at y Gymraeg yn barhaol ddifrifol, o ran cyrsiau a hyrwyddo, yn enwedig ac ystyried faint o fyfyrwyr Cymraeg sy'n cofrestru.
Ella mai dyna pam nad ydynt yn poeni iot, mae digonedd o'r Cymry'n mynd yno beth bynnag.

Re: Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 1:35 pm
gan Cilan
Ella mai dyna pam nad ydynt yn poeni iot, mae digonedd o'r Cymry'n mynd yno beth bynnag


Yn hollol, dydyn nhw'n poeni dim. Ond siawns nad oes yna ddigon o Gymry yno bellach i fedru creu ychydig o fygythiad.

Re: Dim prosbectws Cymraeg o Brifysgol Caerdydd am yr ail waith!

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 8:16 am
gan Seonaidh/Sioni
Off-bwnc braidd, on yn yr Alban eleni doedd na neb yn cael cymhwyster am addysgu trwy gyfrwng yr Aeleg. Hefyd, mae prif brifysgol am yr Aeleg, PUY, newydd benderfynu am beidio a defnyddio ei henw Gaeleg (Oilthigh na Gaidhealtachd agus nan Eilean - OGE) ac am ddefnyddio "UHI" yn unig.