Tudalen 1 o 1

cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 12:58 pm
gan Hazel
"Yn ystod y cyfnod o gwmpas 18,000 cc......" Ydy "cc" yr un â "ce" yn Saesneg? Efallai "cyfnod Cristnogol"?

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 1:03 pm
gan dafydd
Hazel a ddywedodd:"Yn ystod y cyfnod o gwmpas 18,000 cc......" Ydy "cc" yr un â "ce" yn Saesneg? Efallai "cyfnod Cristnogol"?

Meddwl am y peth.. y flwyddyn 18,000. Dim ond 2,009 ydyn ni nawr! Felly mae'n rhaid fod 18,000 'cyn Crist'.

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 1:06 pm
gan sian
CC = Cyn Crist (BC)
OC = Oed Crist (AD)

Mae rhai pobl wedi dechrau defnyddio "Common Era" (CE) yn Saesneg nawr yn lle Anno Domini (AD). Y broblem gyda hyn yn y Gymraeg yw mai "Cyfnod Cyffredin" (CC) yw'r cyfeithiad a bod hyn yr un peth â Cyn Crist (CC).

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 2:07 pm
gan osian
Oni'n meddwl esdalwm bod BC ac AD yn golygu Before Christ ac After Duw.

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 3:56 pm
gan Hazel
Yr ydych chi'n iawn, dafydd. Fe ddes o hyd iddi. A. D.yn Saesneg = O. C. yn Gymraeg. B.C. yn Saesneg = C.C. (cyn Crist) yn Gymraeg. Diolch i chi.

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 5:09 pm
gan Duw
Ro'n i'n meddwl bo'r Sais yn defnyddio BCE (CCC - cyn cyfnod cyffredin) a CE (CC - cyfnod cyffredin).

n the United States, the usage of the BCE/CE notation in textbooks is growing.[51] Some publications have moved over to using it exclusively. For example, the 2007 World Almanac was the first edition to switch over to the BCE/CE usage, ending a 138-year usage of the traditional BC/AD dating system.

Cymerwyd o http://en.wikipedia.org/wiki/Common_Era

Fel anffyddiwr, mae'n welliant - er yn y bon, mesur amser wedi seilio ar enedigaeth person (+/- sawl blynedd mewn realiti) rydym yn ei wneud - i mi hoffwn weld system cyfri hollol wahanol, ond dyna mi, pedant i'r diwedd.

Dylwn ddechrau ar y flwyddyn 10,000 ar ddiwedd y flwyddyn hon. Felly erbyn yr un amser ymhen blwyddyn, bydde'r parti'r mwyaf y byd gyda'r dengfilflwydd yn 10,001! Falle bydd y cyhoedd yn cael e'n gywir wedyn. Milflwydd = x001!

Re: cc

PostioPostiwyd: Sad 13 Meh 2009 6:19 pm
gan sian
Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio Cyfnod Cyffredin a Cyn y Cyfnod Cyffredin yn y Gymraeg - yn enwedig oherwydd y dryswch â'r ddau CC efallai.
Hefyd, fel y soniodd dafydd - does dim 18,000 o flynyddoedd wedi bod yn y Cyfnod Cyffredin - heb sôn am 700,000!

Re: cc

PostioPostiwyd: Sul 14 Meh 2009 7:39 pm
gan Pryderi
Wrth ddarllen teitl y drafodaeth, 'roeddwn i'n edrych ymlaen am drafodaeth ar gynhwysedd ciwbig neu gopïau carbon!

Re: cc

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 8:25 am
gan Seonaidh/Sioni
Copiau carbon! Dyna fo! Ron i wedi cael nrysu'n llwyr wrth geisio dychmygu be oedd "cc" ar ebyst yn golygu. Ond dych chi'n cael "bc" neu "bcc" hefyd? Gwn fod y "b" yn sefyll dros "dall" (blind).

O Dduw, oni chredi yn dy hun?