Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan sian » Sad 13 Meh 2009 2:41 pm

Newydd fy nharo!

Yn Gymraeg, rŷn ni'n galw merched yn "g'lomen wirion" neu'n waeth byth, yn "hen sguthan" ond does dim o'r un cysylltiadau â pigeon ac, yn sicr, ddim â "dove" yn Saesneg. Mae "dove" yn symbol o burdeb a glendid. Fysech chi byth yn cael sebon o'r enw "Sguthan" yn Gymraeg :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan ceribethlem » Sad 13 Meh 2009 2:43 pm

Mae'r Sais yn defnyddio'r term "Pigeon Chested" am llipryn tenau (byth wedi deall pam :? ).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan Josgin » Sad 13 Meh 2009 3:44 pm

'Stool pigeon' am carcharor sy'n fradwr .
'Pigeon' mewn criced yw batiwr sy'n methu'n aml yn erbyn un bowliwr arbennig.

Dwi'n siwr y buasai gan Nelson aml i air cas am y colomennod !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan sian » Sad 13 Meh 2009 3:58 pm

Josgin a ddywedodd:'Stool pigeon' am carcharor sy'n fradwr .


Diddorol
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan Mwlsyn » Llun 15 Meh 2009 7:04 am

O'r OED:

pigeon, n.

...

II. Figurative uses.

6. colloq.

a. A naive or gullible person; a fool or simpleton; a person who is easily swindled, esp. in gambling.

b. to pluck a pigeon and variants: to swindle or fleece a person.

7. A coward. [Obs.]

8. A sweetheart, a darling. Freq. as a term of endearment esp. for a woman.

9. slang. Originally: a person who cheats in a lottery. Later more generally: a swindler; an embezzler. Now rare.

10. slang (chiefly U.S.). A police informer; = stool-pigeon n. at STOOL n.

11. Journalists' slang. A person who carries a journalist's report from one country to another in order to evade censorship. Cf. PIGEON v. 2b.

Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan sian » Llun 15 Meh 2009 7:47 am

Difyr iawn - rhain yn ddierth i fi. Felly, mae "pigeon" yn golygu "a person who is easily swindled, esp. in gambling" a "a person who cheats in a lottery. Later more generally: a swindler". Od!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan ffawydden » Llun 15 Meh 2009 2:42 pm

Dwi wastad wedi meddwl ei bod yn od mai colomen ydi colomen Gymraeg. Achos dwi'n casau colomennod (pigeons) - y "flying rats", ond mae colomennod (doves) yn lyfli.
Rhithffurf defnyddiwr
ffawydden
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 12:59 pm

Re: Colomennod Cymru'n fwy annymunol na rhai Lloegr?

Postiogan sian » Llun 15 Meh 2009 4:03 pm

Be ti'n feddwl wrth "dove"? Yn ôl Iolo, mae 'na:
Golomen y Graig (Feral pigeon/Rock dove) sy'n brin ac i'w gweld yn yr Alban ac Iwerddon yn bennaf;
Colomen wyllt (Stock dove) - aderyn di-nod, llwydlas sy'n dweud ŵŵ-lwc
Ysguthan (Woodpigeon) - sy'n fawr ac yn dew ac yn gyffredin yn y wlad a'r dref ac yn dweud ww-WW-ww - cefn llwyd a bron binc
Turtur Dorchog (Collared dove) - cyffredin, brown golau a bron binc - coler ddu. Galw ww-ww-ww yn ddibaid
Turtur (Turtle dove) prin iawn - i'w gweld yn ne ddwyrain Lloegr - swnio fel cath yn canu grwndi

Dw i'n meddwl mai sguthanod sy 'da ni yma ond dwi ddim yn siwr.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron