Tudalen 1 o 1

aestivate

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 2:17 pm
gan Hazel
Oh diar! Oes 'na fiolegydd yma? Oes unrhywun sy'n gwybod gair Cymraeg gwyddonol am "estivate/aestivate" (go into dormancy). Diolch

Re: aestivate

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 3:12 pm
gan sian
Yn ôl Geiriadur yr Academi, "hafgysgu" yw "aestivate" wrth sôn am anifeiliaid. Ydi hynny'n gwneud synnwyr yn y cyd-destun?

Re: aestivate

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 3:32 pm
gan Kez
Pwy anifail sy'n hafgysgu? Wi'n gwpod bod eirth yn gaeafu, ond pam bysa anifail yn moyn cysgu trw'r haf pan fo'r houl yn shino - silly buggars :?

Re: aestivate

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 3:35 pm
gan Hazel
Roeddwn i'n ei weld hwn ond doeddwn i ddim yn siŵr. Nid alla' i dod o hyd iddo yn YGM ond mae YGM yn dyfod wedi dyddio, dw i'n ofni. Mae'r erthygl am beth ydyn ni'n ei gwneud hi yn yr haf pan ydy'r tymheredd 36.65°C ac yr lleithder yn 70%. Mae'n dweud "estivate". A ydy "hafgysgu" yn addas?

Mae'n boeth iawn yma! :ing:

Re: aestivate

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 9:17 pm
gan Seonaidh/Sioni
Hazel a ddywedodd:Mae'r erthygl am beth ydyn ni'n ei gwneud hi yn yr haf pan ydy'r tymheredd 36.65°C ac yr lleithder yn 70%. Mae'n dweud "estivate". A ydy "hafgysgu" yn addas?

I fi, bydd "hafgysgu" yn golygu "cysgu drwy'r haf". Tra mod i'n awyddus am "hibernate" - "aestivate" fod yn debyg i'w gilydd o ran gystrawen, dwi ddim yn credu byddet tithau'n cysgu drwy'r haf - hyd yn oed pe tai'n bloody hot ac yn fwll ofnadwy. Felly, dw i ddim yn sicr o gwbl am "hafgysgu" yn y cyd-destun hwn. Beth am rywbeth fel "gwylltio"? ...