Do'n i ddim yn meindio cyfieithu un frawddeg fel hyn - ond mae hwn yn bwynt pwysig.
Mae 'na bobol/sefydliadau sy'n disgwyl i gyfieithwyr weithio am ddim neu'r nesa peth i ddim pryd y bydden nhw'n talu'n llawen i seiri a chyfrifwyr a siopau.
Beth amser yn ôl, cafwyd apêl gan yr Eglwys yng Nghymru:
Apêl am gyfieithwyr
Apeliwn am Gyfieithwyr a fyddai'n fodlon dod yn aelodau o Dîm Cyfieithu Esgobaeth ***. Gofynnir i aelodau'r tîm weithio'n wirfoddol ond ni fyddai disgwyl iddynt gyfieithu mwy nag ychydig ochrau o destun yn unig bob blwyddyn.
Mae'r rôl yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Esgobaeth hon yn parhau i fod yn un dwyieithog ym mhob ffordd. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.
Anfonais yr ateb hwn:
Apêl am Wneuthurwyr Casogau
Apeliwn am Wneuthurwyr Casogau a fyddai'n fodlon dod yn aelodau o Dîm Gwneuthurwyr Casogau Esgobaeth ***. Gofynnir i aelodau'r tîm weithio'n wirfoddol ond ni fyddai disgwyl iddynt wneud mwy nag ychydig lewys yn unig bob blwyddyn.
Mae'r rôl yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Esgobaeth hon yn parhau i fod yn un drwsiadus ym mhob ffordd. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.