Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Dona_501 » Sad 27 Meh 2009 8:46 pm

Shwt mae pawb?

Dwi'n ganol neud gwahoddiadau priodas gyda 3 slips yn amgaeedig-
1) Rhestr o'r bwydlen sydd a'r gael
2) Lle i pobol i ysgrifennu beth ma nhw moi'n i fwyta a
3) yr RSVP

Ond y cwestiwn sydd gyda fi yw sut yw'r ffordd iawn i cyfieithi:

'Please state your meal choice on the enclosed 'Meal Selection' slip, and return with the RSVP'?

Dwi ddim yn teimlo'n digon hyderus i rhoi beth i fi'n meddwl yw'r ffordd iawn achos ma Cymraeg ysgrifennedig i ddim mor dda a hynny :wps: !

Diolch yn fawr iawn!

Cofion

D xx
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan sian » Sad 27 Meh 2009 9:31 pm

Dona_501 a ddywedodd:'Please state your meal choice on the enclosed 'Meal Selection' slip, and return with the RSVP'?


Rhywbeth fel:

Nodwch beth yr hoffech i'w fwyta ar y slip 'Dewis Bwyd' a'i anfon yn ôl gyda'r slip ateb. Diolch.

Ecseiting!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Dona_501 » Sad 27 Meh 2009 9:46 pm

Oh Sian - ti'n god send!

Diolch yn fawr iawn, iawn, iawn i ti xx
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 28 Meh 2009 8:25 am

Pryd dyn ni'n derbyn ymgeisiadau fel hyn ym myd yr Aeleg, rydym ni'n tueddu deud rhywbeth fel "Mae na lot o bobl sy'n gweithio'n broffesiynol ar gyfieithu pethau o Saesneg i Aeleg ac bydden nhw'n gwerthfawrogi rhagor o fusnes. Beth am eu cefnogi nhw?"
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan sian » Sul 28 Meh 2009 8:52 am

Do'n i ddim yn meindio cyfieithu un frawddeg fel hyn - ond mae hwn yn bwynt pwysig.
Mae 'na bobol/sefydliadau sy'n disgwyl i gyfieithwyr weithio am ddim neu'r nesa peth i ddim pryd y bydden nhw'n talu'n llawen i seiri a chyfrifwyr a siopau.

Beth amser yn ôl, cafwyd apêl gan yr Eglwys yng Nghymru:
Apêl am gyfieithwyr

Apeliwn am Gyfieithwyr a fyddai'n fodlon dod yn aelodau o Dîm Cyfieithu Esgobaeth ***. Gofynnir i aelodau'r tîm weithio'n wirfoddol ond ni fyddai disgwyl iddynt gyfieithu mwy nag ychydig ochrau o destun yn unig bob blwyddyn.

Mae'r rôl yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Esgobaeth hon yn parhau i fod yn un dwyieithog ym mhob ffordd. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.


Anfonais yr ateb hwn:
Apêl am Wneuthurwyr Casogau

Apeliwn am Wneuthurwyr Casogau a fyddai'n fodlon dod yn aelodau o Dîm Gwneuthurwyr Casogau Esgobaeth ***. Gofynnir i aelodau'r tîm weithio'n wirfoddol ond ni fyddai disgwyl iddynt wneud mwy nag ychydig lewys yn unig bob blwyddyn.

Mae'r rôl yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Esgobaeth hon yn parhau i fod yn un drwsiadus ym mhob ffordd. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Dona_501 » Sul 28 Meh 2009 12:49 pm

Bydden i'n fwy na fodlon i talu rhewyn i cyfieithi dogfennau - diolch am rhoi wybod. Pwy ddylen i cystylltu?

Diolch yn fawr :D
Dona_501
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan sian » Sul 28 Meh 2009 1:25 pm

Mae Bwrdd yr Iaith yn cynnig cyfieithu hyd at 30 o eiriau am ddim.

Gyda phethau mwy o faint, mae rhestr o gyfieithwyr gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 29 Meh 2009 8:31 pm

sian a ddywedodd:Apêl am Wneuthurwyr Casogau

Apeliwn am Wneuthurwyr Casogau a fyddai'n fodlon dod yn aelodau o Dîm Gwneuthurwyr Casogau Esgobaeth ***. Gofynnir i aelodau'r tîm weithio'n wirfoddol ond ni fyddai disgwyl iddynt wneud mwy nag ychydig lewys yn unig bob blwyddyn.

Mae'r rôl yn un hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Esgobaeth hon yn parhau i fod yn un drwsiadus ym mhob ffordd. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.

Rydw i'n hoffi hynny! Does fawr niwed mewn cyfieithu tipyn o beth am ddim, ond weithiau dyna frig y mynydd ia. Ymddengys boddwyd lot o wefannau iaith yr Aeleg gan geisadau dibaid am gyfieithu tatw, slogan, dywediad, dihareb ac ymlaen, fel arfer (ond dim i gyd) o du hwnt yr Iwerydd.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Sut i cyfieithi y llinell hyn?

Postiogan Duw » Llun 29 Meh 2009 10:06 pm

Crist o'r nef! Dim ond gofyn am sut i gyfieithu brawddeg. Stim ishe mynd mor hunangyfiawn am y peth.

sian a ddywedodd:Mae Bwrdd yr Iaith yn cynnig cyfieithu hyd at 30 o eiriau am ddim.


Dyna'r cyfan oedd angen. Sioni, watcha mas gw boi, geid di hardnin of ddi arteris. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron