Tudalen 1 o 1

Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 2:49 pm
gan Orcloth
O'n i'n siarad hefo boi heddiw ar wefan chat (yndw, dwi dal wrthi!!!!), a'r enw ddefnyddiodd o oedd "ffwrchnedd" - dwi rioed di clywed am y gair yma o'r blaen - oes gan unrhywun ohonoch chi syniad be mae o'n feddwl, plis? (Nes i'm meddwl gofyn iddo fo be oedd y gair yn ei olygu - dwl ta be?!!). :winc:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 3:00 pm
gan osian
Wel, y gair Cymraeg am fanana ydi ffrwchnedd. Dwn i'm os oes gan ffwrchnedd ystyr arall :lol:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 3:10 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae'n rhaid na ffrwchnedd oedd o'n ei feddwl (sef hwn)! Er o ran ffrwchnedd dydi o ddim yn air swyddogol ar gyfer banana yn Gymraeg, a dydi o ddim i'w gael mewn unrhyw eiriadur chwaith. Aparyntli mae tarddiad y gair yn rhywfaint o ddirgelwch. Ond dwi'n meddwl ei fod o'n air cwl :D

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 3:28 pm
gan Orcloth
Ia, dwi'n meddwl mai "ffrwchnedd" oedd ei enw fo, y fi sillafodd yn anghywir!!!
Diolch yn fawr iawn i chi'ch dau am ymateb mor sydyn, ac am ddatrys y ddirgel enw!!! Ti'n meddwl ei fod yn air cwl, Hogyn? Dim y chdi oedd o, naci?!!!!
Mmmmm, felly banana mae o'n galw'i hun, ia, sgwn i pam?????!!!!! :winc:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 3:56 pm
gan Hazel
Efallai "to go bananas"? "to lose one's cool"? Efallai? :ofn:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 4:06 pm
gan Orcloth
Dwi newydd gael gwybod be ydi ystyr y gair "ffwrchio", gan mai "ffwrchnedd" nes i sgwennu ar y dechra! :wps:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 4:23 pm
gan Hazel
Oh! :wps: yn wir. Sori. :(

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 4:29 pm
gan Orcloth
Dwi newydd checio'n ol ar y wefan a ffrwchnedd ydi'i enw fo - ffiwww!!!! :lol:

Re: Be di ystyr y gair???

PostioPostiwyd: Llun 06 Gor 2009 7:29 am
gan Orcloth
Cyd-ddigwyddiad ta be???? O'n i di mynd am dro i Borthmadog dydd Sadwrn ac ar y ffordd yn ol am y car, roedd rhaid piciad i mewn i Cadwaladr's i gael hufen ia, toedd? Be welais i reit yn ffrynt yr oergell ond y geiriau "ffrwchnedd/banana" - wel, roedd rhaid i mi gael un o rheiny, toedd?!!! Bendigedig oedd o hefyd - ewadd, ffawd ta be dudwch?!!! :winc: