Tudalen 1 o 1
Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 1:21 pm
gan Hazel
Glywasoch unrhywun erioed am "Mers"? Mi wnes i geisio Google, ni thycia ddim.
<<Yn Rhuddlan yn 1284 cyhoeddodd Edward Statud Rhuddlan, ei gynllun ar gyfer Cymru. Daeth tiroedd Llywelyn yn siroedd dan y goron, tra bod arglwyddiaethau'r Mers yn cadw eu hen statws.
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 1:34 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
mersey dwi'n meddwl. glannau'r mers.
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 1:43 pm
gan Duw
Y Mers yw'r 'Welsh Marches' (Marchia Wallie).
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 1:46 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Duw a ddywedodd:Y Mers yw'r 'Welsh Marches' (Marchia Wallie).
teimlo'n rili thic wan.
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 2:23 pm
gan Hazel
Diolch yn fawr, Duw. Y "Borders". Dw i'n meddwl am y llysoedd yna. "..tra bod arglwyddiaethau'r Mers yn cadw eu hen statws." Roedd y llysoedd Saesneg yn y Mers. Ie? Efallai fod 'na gysylltiad yna?
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 6:54 pm
gan Duw
Dwi ddim yn unrhyw fath o hanesydd, ond o beth dwi'n deall, Saeson (neu Normaniaid?) o dan brenhinoedd Plantagenet (hyd at y Tuduriaid) oedd yr arglwyddi. Er, dwi'n meddwl gwnaeth nifer ohonynt briodi Cymry ac felly roedd llai o ryfela/drwgdeimlad rhwng yr arglwyddi a'r Cymry. Am y llysoedd - dim syniad. Dwi'n sicr bod sawl un ar faes-e wedi astudio Hanes Cymru. Beth amdani?
Re: Mers
Postiwyd:
Iau 02 Gor 2009 7:16 pm
gan Hazel
Does dim gen i ddawn i egluro y llysoedd yna'n esmwyth. Dim ond dweud na fod nhw'n dilyn y cyfreithiau'n gywir pan oeddent nhw'n pryderu'r Gymry. A doedd dim ots i Edward. Roedd hynny'r "statws".
Ah wel. fel 'na mae hi. Diolch am yr atebion.
Re: Mers
Postiwyd:
Gwe 03 Gor 2009 9:35 am
gan Cardi Bach
Gwybodaeth am y Mers
yma,
yma,
yma ac
yma, a llwyth o lefydd eraill. Jest edrych am Welsh Marches mewn unrhyw beiriant chwilio.
Re: Mers
Postiwyd:
Gwe 03 Gor 2009 10:13 am
gan Hazel
Diolch, Cardi. Dim ond angen gwybod beth ydy "Mers". Doeddwn i ddim yn gwybod bod "Mers" = "Marches".