Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 04 Gor 2009 10:05 pm

sian a ddywedodd:Mae 'na rai sy'n amlwg yn non-starters - fel "ysgytlaeth" :D


Fi'n dweud ysgytlaeth! (wel sgytlath i weud y gwir) :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan sian » Sad 04 Gor 2009 10:46 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Mae 'na rai sy'n amlwg yn non-starters - fel "ysgytlaeth" :D


Fi'n dweud ysgytlaeth! (wel sgytlath i weud y gwir) :?


Wyt wir? Oes rhywun arall?
Pan oedd 'na stondin milc-shêc yn Steddfod o'n i bob amser yn treio paratoi fy hunan yn y ciw i ofyn am "Sgytlaeth mefus" ond roedd e bob amser yn dod mas fel "Milc-shêc strawberry". Mae'n haws nawr - ti jest yn gallu codi carton Daioni a mynd ag e at y cownter yn Blas. :lol:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Y gair Cymraeg am 'keyboard'

Postiogan dafydd » Sad 04 Gor 2009 11:00 pm

sian a ddywedodd:Pan oedd 'na stondin milc-shêc yn Steddfod o'n i bob amser yn treio paratoi fy hunan yn y ciw i ofyn am "Sgytlaeth mefus" ond roedd e bob amser yn dod mas fel "Milc-shêc strawberry".

Dyna'r broblem gyda llawer o'r bathiadau newydd yma. Mae'n iawn eu defnyddio nhw wrth ysgrifennu ond ychydig iawn sy'n eu defnyddio ar lafar. Mae'n amhosib gwneud hynny heb deimlo fel rhyw 'Rhisiart' neu 'Glenys'.

Os oedd angen cyfieithu 'keyboard' mewn testun fasen i'n defnyddio 'bysellfwrdd'. Wrth sgrifennu yn Gymraeg, mi fyddai weithiau yn cyfeirio at allweddell am mod i'n fwy cyfarwydd a'r gair (o gyd-destun allweddellau piano/synth). Ar lafar mae'n sicr mai cî-bôrd fasen i'n dweud. Os oedden i'n athro mae'n siwr fydden i'n trio siarad 'Cymraeg graenus' er mwyn gosod esiampl. Neu os oeddwn ni yn gwneud cyflwyniad yn gyhoeddus mi allen i ddefnyddio'r gair oherwydd y disgwyliadau yn erbyn siarad bratiaith.

Dwi ddim yn meddwl fod hyn yn ddim byd unigryw chwaith.. dwi'n defnyddio geirfa wahanol iawn wrth ysgrifennu saesneg ac wrth ei siarad gyda chyd-weithwyr neu siarad mewn cyd-destun ffurfiol/cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron