Tudalen 1 o 1
Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 8:17 pm
gan Hazel
Sut ydyn ni'n dweud "Southerner" - un a caffodd ei eni yn y De?
Re: Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 8:20 pm
gan Hedd Gwynfor
Hwntw
Re: Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 8:50 pm
gan Hazel
Diolch. Dw i wedi anghofio!
Re: Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 9:36 pm
gan Chickenfoot
Mae teulu fy mam yn dweud "sioni", ond dw i byth yn clywed pobl yn defnyddio'r term yna tu allan i'n nghylch teuluol.
Re: Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 10:30 pm
gan sian
Mae "Sowthyn" yn cael ei ddefnyddio hefyd; a "deheuwr" yn fwy ffurfiol.
Fe fydden ni'n sôn am "Sowthyn, "y Sowth" ac yn gweud bod rhywun "yn byw yn South Wales" a ninnau'n byw yn Sir Gaerfyrddin.
Re: Southerner
Postiwyd:
Maw 07 Gor 2009 10:36 pm
gan Duw
'Bois reit'. 'Na beth oedd rhai ohonom yn galw ein hunain. Nid sewdo-gogs (canolbarth) na proper-gogs.
Re: Southerner
Postiwyd:
Mer 08 Gor 2009 7:24 pm
gan Azariah
A dyna fi yn meddwl taw 'sowthmon' oedd y gair cywir yn nhafodiaith y Gogledd
Re: Southerner
Postiwyd:
Iau 09 Gor 2009 3:20 pm
gan Kez
Chickenfoot a ddywedodd:Mae teulu fy mam yn dweud "sioni", ond dw i byth yn clywed pobl yn defnyddio'r term yna tu allan i'n nghylch teuluol.
Ti'n clwad 'Sioni hoi' hefyd i gyfeirio at amall i berson yn y cymoedd, ond ma fe bach yn sarhaus ac yn awgrymu bo nhw'n benrhydd a gwyllt. Fi'n siwr bo fi w clwad hwnna yn Sysnag ed.
Re: Southerner
Postiwyd:
Iau 09 Gor 2009 4:23 pm
gan Chickenfoot
Be' am un newydd: Denzils?