Tudalen 1 o 2

Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 2:11 pm
gan Ffrinj
O'n i heb feddwl am hyn o'r blaen, nes i ddysgwr pwyntio fo allan imi, ond pam ydyn ni'n deud Ynys Môn ac Ynys Manaw yn hytrach na Fôn a Fanaw? Yn enwedig gan mai 'Sir Fôn' yw hi, nid Sir Môn :?
Ymddieuriade, fy esgus i yw mod i'n dod o Drenewydd :rolio:

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 2:38 pm
gan Hedd Gwynfor
Mwy na thebyg nad oes rheswm amlwg, mae hyn yn digwydd gyda enwau sydd wedi bodoli ers hydoedd e.e. pam Tyddewi? Mae Tŷ yn wrywaidd. Ond mae'n bosib iawn (hyd yn oed tebygol! :winc: ) mod i'n siarad nonsens fan hyn.

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 2:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae enw wastad yn treiglo ar ôl 'Sir' e.e. Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn - ond dwi ddim yn siwr a oes rheol bendant o ran ynysoedd. Er enghraifft, 'Ynys Gybi' ac nid 'Ynys Cybi' sy'n gywir (sef yr ynys lle lleolir Caergybi).

Wn i ddim, ond dyma restr o ynysoedd Cymru - mae llawer yn treiglo a llawer ddim ond dwi ddim yn gweld unrhyw gysylltiad.

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 2:59 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Mwy na thebyg nad oes rheswm amlwg, mae hyn yn digwydd gyda enwau sydd wedi bodoli ers hydoedd e.e. pam Tyddewi? Mae Tŷ yn wrywaidd. Ond mae'n bosib iawn (hyd yn oed tebygol! :winc: ) mod i'n siarad nonsens fan hyn.


Fel arfer :lol:

Ffrinj - paid a gryndo ar Hedd na Hogyn - ma'r ddou o'nhw'n dwp :winc: Ti'n gallu gweud Sir Dyfed, Sir Powys ac ati ond ma'r atab i dy gwestiwn yn gymhleth odiaeth; ma'n well dibynnu ar y glust ac arferion llafar heb gwestiynnu'r peth gormod ne' ei di i bicil.

Ma fe biti ymadroddion enwol ac ymadroddion enwol dibynnol a rhyw oleddfydd ne'i gilydd a lot o ryw shit fel 'na.

Fi ond yn gwpod 'ny am fod 'brain' fi mor fawr; mor fawr mewn gwirionadd fel nag os le iddo fe yn fy mhen i ac ma bach o' fe yn stico mas o ben ol fi - er bod y doctor yn gweud taw peils yw hwnna.

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 3:08 pm
gan Hogyn o Rachub
Kez a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Ti'n gallu gweud Sir Dyfed, Sir Powys ac ati ond ma'r atab i dy gwestiwn yn gymhleth odiaeth; ma'n well dibynnu ar y glust ac arferion llafar heb gwestiynnu'r peth gormod ne' ei di i bicil.



Wyt gyfaill, OND fel rheol ti'n peidio â threiglo pan ti'n cynnwys y gair 'Cyngor' o'u blaen, ond yn treiglo pan mai dim ond 'sir' sy'n cael ei ddweud, e.e.

Sir Gaerfyrddin >> Cyngor Sir Caerfyrddin
Sir Benfro >> Cyngor Sir Penfro

'Dwn i ddim ond mae rhywbeth yng nghefn fy mhen yn dweud bod rhywun yn dueddol o dreiglo'r siroedd 'traddodiadol' (e.e. Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd) ond efallai dim y siroedd 74-96 (Dyfed, Gwynedd etc).

O dwnim wir.

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 3:21 pm
gan Kez
Ma dyfyniadau ti'n rong. Wetas i ddim bod Hedd yn gweud rhywbeth sensible. Bysa 'hwnna fel gwed bod moch yn edfan. Yfi wetws y peth sensible - odi bysellfwrdd ti'n wara lan hefyd 'chan :winc: :lol:

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 3:38 pm
gan Hedd Gwynfor
Pam 'Tyddewi' yn lle 'Tydewi'? :?

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 4:10 pm
gan Kez
Pam 'dydd Gwyl Dewi 'a hefyd 'dydd Gwyl Ddewi' :?

Mae iaith lafar yn dod gynta ac wedyn mae pobol yn dychra ysgrifennu ac wediny mae pobol yn ysgrifennu gramadegau ac yn rhoi rheolau i iaith ar un cyfnod yn ei hanes ac wedyn un arall ar ol rhyw ganrif, er bod iaith wrth ei natur yn newid o ddydd i ddydd. Wi'n credu hefyd bo nhw'n neud amall i reol lan. Mae iaith yn fluid ond dyw llyfrau gramadeg ddim yn symud mlan ar yr un cyflymdra.

Mae gramadegau'r Gymraeg yn gweud wrthon ni fel y dylsa hi fod ond nid fel ag y ma ddi yn ein dyddia ni - y traddodiad lenyddol yw'r pen-bandit.

Dy glust yw'r gramadeg gorau sydd.

(fi'n teipo hyn nawr ac ma fi a Xose ar y gwin ac yn trafod dyfodol yr Alisieg, ac fi'n rhyw ofan bo fi'n malu cachu er bo fi ddim yn meddwl bo fi - walla naf i edrych ar gyfraniad fi fory a'i ddileu. Tasa Xose ddim mor boring, byswn i'n canolbwynto mwy ar beth ma'n weud a gatal Maes-e i fod)

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 4:19 pm
gan sian
Ddrwg 'da fi weud tho ti Kez - ond ti'n gwneud synnwyr 8)
Dw i ddim yn siwr ydw i'n cytuno'n llwyr ond mater arall yw hynny

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 4:43 pm
gan Ffrinj
Duuww annwyl. Diolch am eich atebion, oedd hynna'n gyflym~! :ofn:
Haha, grêt, ma mhen i'n brifo wan. A swn i'm yn trustio nghlustie i yn bersonol i ddweud y gwir.
O'n i ond yn meddwl bod rhyw reswm hanesyddol neu wbeth tu ôl iddo fo, wn i ddim. Gweles i dy linguistics lingo a nath fy ymennydd i doddi, does na dim ffordd syml syml i esbonio fo? :lol: (a dwi i fod i neud ieithyddiaeth blwyddyn nesa, *Fail*)