Tudalen 2 o 2

Re: Môn? Fôn? :(

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 9:57 pm
gan Seonaidh/Sioni
Bydd yn ddiolchgar nad Gaeleg sy yma - Ynys Manaw => Eilean Mhanainn (hy efo threiglad fel M => F Cymraeg) - ac mae "Eilean" yn enw gwrywaidd yn yr Aeleg! Hyd yn oed yn y Fanaweg, "Ellan Vannin".

Mae "swydd" yn fenywaidd ynte? Ond maen nhw'n sgwennu "Swydd Caerloyw" ac ati. Yn yr hen ddyddiau cawsoch chi pethau fel "Eglwys Loegr" ond heddiw, os dych chi am gyfeirio at boblogaeth yr ardal na, sech chi'n sgwennu "poblogaeth Lloegr". Ac yn yr hen amser, fasai neb yn cyfeirio at "Ynys Manaw/Fanaw" neu "Ynys Mon/Fon" - dim ond at y lle, "Manaw" neu "Mon". Wedi'r cwbl, dan ni ddim yn deud "Sir Ynys Mon". Felly, swn i'n credu mai enw eitha newydd ydy "Ynys Mon" ac felly wedi'w lunio yn y ffordd gyfoes.